Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/74

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fel pob pregethwr cyfiawnder. Ac yna darllenner ei ddesgrifiad o dywysogion Cymru yn hanner olaf y chweched ganrif,—

"Canys i ba beth y celwn ni yr hyn y mae’r cenhedloedd oddi amgylch, nid yn unig yn ei wybod, ond yn ei ddannod, sef, fod gan Brydain frenhinoedd o dreiswyr, a barnwyr o orthrymwyr, ie, y rhai a ysglyfaethant y gwirion, ac a gadwant yr euog, a chanddynt lawer o wragedd puteinaidd, yn llochesu lladron a godinebwyr, yn anudonwyr, yn cyfodi terfysgodd ym mysg eu gilydd? Megis y darfu i'r gormes—deyrn Cystenyn yleni yn yr eglwys ladd dau o'r had brenhinol, er iddo ymrwymo a lIw cyhoeddus na wnai dwyll i'w bobl; wedi iddo o'r blaen yrru ymaith ei wraig o serch ar buteiniaid. O paham yr wyt ti yn archolli dy enaid dy hun? O paham yr wyt ti yn ennyn y tan i ti dy hun? Edifarha a thyred at Grist. Y tad daionus a wna wledd o gysur nefol i'r dychweiedig, fel y profo mor dda yw'r Arglwydd.

A pheth a wnei dithau, Aurelius Conan, y cenaw llew? Onid wyt ti ar soddi yn yr unrhyw fryntni o fwrdwr a godineb? Oni throi at yr Arglwydd yn fuan, Efe a chwery a’r cleddyf atat ti ar fyrder, ac ni bydd a'th waredo di o'i law Ef.—A thithau, Vortipor benllwyd, rheolwr Dyfed, tebyg i lewpart amliwiog o anwireddau, mab diras i frenin da, fel Manasse i Hezeciah, beth a wnei di yn cyffio yn dy orseddfainc dwyllodrus, halogedig gan fwrdwr a phuteindra? Na threulia yr ychydig sydd yn ôl o'th ddyddiau yn digio Duw, canys yn awr y mae'r amser cymeradwy a dydd iechydwriaeth yn tywynnu i'r edifeiriol.

A thithau, Cuneglas, paham y gwnei gymaint helbul i ddynion trwy ryfel cartrefol, ac i Dduw trwy aneirif bechodau, yn erbyn y gair syn dywedyd nas gall godinebwyr etifeddu teyrnas nef? Paid â'th ddigofaint tuag at Dduw a'i braidd, newid dy foddion, fel y byddo iddynt hwy weddio drosot ti, y rhai a allant rwymo yr euog ar y ddaear a rhoi gollyngdod i'r edifeiriol? Tithau hefyd, Maglocun, a yrraist gymaint o frenhinoedd gormesol allan o'u teyrngader a'u bywyd, paham yr ymdreigli yn y fath dduon bechodau, megis pe bait wedi meddwi ar win Sodoma? Oni orthrymaist ti, drwy gleddyf a thân, dy ewythr y brenin, a'i filwyr dewr, y rhai oedd mewn brwydr nid anhebyg yr olwg arnynt i genawon llewod? Esgeulusaist eiriau'r proffwyd a ddywed, Gŵyr gwaedlyd a thwyllodrus ni byddant byw hanner eu dyddiau. Gwae di, anrheithiwr, pan ddarffo it anrheithio, y'th anrheithir. Pan addunedaist fyned yn fonach—ysgatfydd o ran pigiadau dy gydwybod—ac wedi troi o frân yn golomen, ac ehedeg rhag ewinedd creulon y gwalch, i gelloedd diogel y saint, O faint fuasai