Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/75

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

llawenydd yr Eglwys, oni buasai i elyn dynolryw dy dynnu di allan o'i mynwes hi! O, fel y buasai gobaith nefol yn calonogi yr ysbrydoedd cystuddiedig, pe buasit heb ddychwelyd fel ci at ei chwydfa. Yn awr rhoddi dy aelodau yn arfau anghyfiawnder i bechod a diafol! Ni wrendy dy glustiau hyfrydlais disgyblion Crist yn canu mawl i Dduw, ond dadwrdd gwenieithwyr celwyddog yn canu dy fawl dy hun. Ie, yr wyt ti, fel ebol gwyllt, yn rhedeg trwy faesydd anwiredd, gan dybied fod y fan lle ni bu yn felysach, ac fyth yn myned rhagddo. Canys, gan ddirmygu dy wraig briod, ceraist wraig gŵr arall, ac yntau yn fyw; a hwnnw nid estron oedd, ond mab dy frawd. Ac i soddi dy war galed yn ddyfnach, bwriaist arni ychwaneg o bwys euogrwydd, gan i ti, trwy hoced y butain, ladd dy wraig dy hun a gŵr y llall, i'w chymeryd atat! Pa ŵr duwiol, wrth glywed y fath beth, nad ocheneidia ei ymysgaroedd ynddo? Pa eglwyswr, yr hwn y mae ei galon yn union tuag at Dduw, na ddywed gyda'r proffwyd, Pwy a rydd i'm pen ddwfr, ac i'm llygaid ffynnon o ddagrau, fel y wylwn ddydd a nos am laddedigion fy mhobl! Nid oes diffyg cynghorion arnat ti, gan fod gennyt athraw sydd ddysgawdwr huawdl agos i Brydain oll. O frenin, golch dy galon oddi wrth dy ddrygioni, ac na ddirmyga Dduw sydd yn dywedyd, Pa bryd bynnag y dywedwyf am ddiwreiddio, a thynnu i lawr, a difetha cenedl neu frenhiniaeth, os y genedl honno y dywedais yn ei herbyn a dry oddi wrth ei drygioni, myfi a edifarhaf am y drwg a amcenais ei wneuthur iddi.—Hefyd yn Deuteronomium, Cenedl heb gyngor ydynt hwy, ac heb ddeall ynddynt. O na baent ddoethion, na ddeallent hyn, nad ystyrient eu diwedd! Pa fodd yr ymlidiai un fil, ac y gyrrai dau ddeng mil i ffoi? Na fychana'r proffwydi, na ninnau chwaith, er ein gwaeledd, y rhai ydym, mewn mesur o ddiragrith a dwyfolder meddwl, yn dal ar air y proffwydi, rhag ein cael yn gwn mudion."

Y mae Sieffre o Fynwy wedi defnyddio'r hanes hwn, neu draddodiadau am yr un brenhinoedd, ac wedi ychwanegu llawer ato o ryw gyfeiriad neu gilydd. Cynan oedd y Gwledig, ond y mae'n amlwg fod gallu Maelgwn yn cynyddu o hyd. Yr oedd ei dad, Caswallon Law Hir, wedi estyn terfynau Cunedda, trwy ddarostwng holl Wyddyl Gwynedd, neu eu gyrru’n ôl i'r môr. Estynnodd Maelgwn fwy fyth ar derfynau teyrnas ei deulu. Darostyngodd ynys Môn, a daeth yn eiddo iddo; a dyna'r rheswm