Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/76

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

paham ei gelwir yn ddraig yr ynys. Heblaw hyn, aeth mewn llongau i'r môr, a daeth ynysoedd eraill yn eiddo iddo; hen lochesfeydd y Gwyddyl a môr—ladron eraill. Dywed Sieffre, o ba le bynnag y cafodd y traddodiad, fod Maelgwn wedi cael holl Brydain dan ei lywodraeth, a chwe ynys gyda hi. Ni chafodd Maelgwn unbennaeth yr holl ynys, ac ni ddarostyngodd, o "fynych greulawn ymladdau", yr holl wledydd enwir gan Sieffre,—Iwerddon, Ysgotland, Orc, Llychlyn, a Denmarc. Eto i gyd, y mae peth gwirionedd yn y traddodiadau hyn.

Yn un peth, y maen sicr fod Maelgwn Gwynedd wedi darostwng Gwyddyl Gwynedd yn hollol, wedi adeiladu llynges, ac wedi ymlid pob môr—ladron i'r Iwerddon ac ynysoedd y gogledd, gan osod ei arswyd arnynt. O'r cyfeiriad hwn nid oedd berygl mwyach.

Rhoddodd llwyddiant Maelgwn, maen ddiameu, fri mawr iddo,—"tecaf gwas o holl frenhinoedd ynys Prydain, diwreiddiwr llawer o wŷr creulawn Cadarn." Yr oedd y tywysog enwocaf yng Nghymru yn cael enw'r Gwledig, fel yr oedd tywysog enwoca'r Saeson wedi hynny yn cael yr enw Bretwalda. Pan oedd Gildas yn ysgrifennu ei alarnad chwerw, Cynan oedd y Gwledig, ond yr oedd Maelgwn, er ei bechodau, wedi llwyddo. Cynan oedd teyrn Powys, yn ol pob tebyg, ac yr oedd y Saeson i ymosod cyn hir ar ei ochr ef o Gymru, fel yr oedd y Gwyddyl wedi ymosod ar ochr Maelgwn. Gyda glan y môr y cysylltir enw Maelgwn; ond gan mai yn y gorllewin yr oedd mwyaf o berygl ar yr adeg hon, ar lan môr y gorllewin yr oedd lle i ennill brwydrau a chlod.

Pan oedd Maelgwn yn anterth ei lwyddiant, yr oedd eisieu Gwledig, ac ymgrymodd tywysogion ereill Cymru i frenin y gorllewin ar môr. Pa un a'i wedi brwydr ynte o'u bodd y rhoddodd y lleill ei goron iddo, nis gallaf ddweyd. Dywed traddodiad