Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/77

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fod y tywysogion wedi ymgynnull ar y traeth ger Aber Dyfi, ac wedi eistedd yn eu cadeiriau ar lan y môr, i ddewis brenin ar holl Gymru. Penderfynwyd mai yr hwn fedrai eistedd yn ei gader olaf, heb gilio o flaen y Ilanw, fyddai brenin Cymru. Yr oedd rhyw wr o ran Maelgwn o'r wlad, o Arfon neu Feirionnydd, o'r enw Maeldaf Hen, wedi gwneyd cader o edyn cwyredig i Faelgwn Gwynedd. A nofiodd honno, pan oedd y cadeiriau ereill wedi eu dymchwelyd, ar rhai eisteddai arnynt wedi cilio i fyny'r traeth. Ac am hynny coronwyd Maelgwn yn frenin Cymru.

Beth bynnag arall ydyw ystyr yr hen draddodiad hwn, dengys fod Maelgwn wedi ei ddewis yn Wledig. A dengys hefyd, hwyrach, fod a fynno ei lynges rywbeth a'i ddyrchafiad. Ac felly daeth brenin y gorllewin ar môr, yn ei gader nofiadwy, yn Wledig holl Gymru, yn ben ar yr holl fân frenhinoedd ereill.

Dywed Gildas mai mynach oedd Maelgwn unwaith, ac mai pechod oedd gadael ei fynachdy. Byddai meibion brenhinoedd yn aml yn cymeryd gwisg a llw'r mynach, gan ddewis tangnefedd y mynachdy yn hytrach na bywyd tymhestlog brenin daearol. I fynach fel Gildas nid oedd ond drygioni ym mywyd y byd, a'r mynachdy oedd unig noddfa crefydd a rhinwedd. Ond gallai fod Maelgwn, yn nhawelwch ei fywyd mynachaidd, wedi meddwl fel arall. Yr oedd y gelyn paganaidd yn bygwth Cymru, a dewisodd adael ei noddfa a'i weddi, i ymladd ag ef. A phan orchfygwyd y gelyn, yr oedd uchelgais a gwladgarwch yn gwneyd iddo feddwl am gader Gwledig ei wlad. Pa fodd bynnag, efe a'i deulu waredodd Gymru oddiwrth y Gwyddyl, efe roddodd arswyd ei enw ar fôr—ladron y gogledd, efe unodd frenhinoedd ei wlad dan ei lywodraeth ei hun.