Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/78

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Paganiaid oedd y gelynion orchfygasai Maelgwn. Cenhedloedd paganaidd oedd yn bygwth ymdaenu dros Gymru o'r Iwerddon a'r gogledd, yn ogystal ag o for y dwyrain. Wrth gymeryd iau Maelgwn Gwynedd, yr oedd y cenhedloedd paganaidd hyn yn cymeryd iau Cristionogaeth arnynt hefyd. Oes Cunnedda Wledig a'i deulu oedd oes y seintiau Cymreig. Pan ddaeth gallu Maelgwn yn oruchel ym Môr yr Iwerddon, dilynodd cenhadon Cristionogol ol ei longau. Dyma gyfnod effro yng nghenhadaeth Gristionogol Cymru. Tra'r oedd teulu Cunedda mewn awdurdod, daeth y Gwyddyl a'r Pictiaid barbaraidd, fyddai'n arfer anrheithio'r dalaeth, yn Gristionogion. Pregethodd Padrig Sant yr efengyl yn yr Iwerddon, adferodd Cyndeyrn Sant Gristionogaeth y gogledd, a phregethwyd yr efengyl i Wyddyl Dyfed gan Ddewi Sant,—yr hwn a wnaeth ei gartref yn Nhyddewi yn eu canol.

Derbyniodd Gwyddyl Cymru, felly, lywodraeth a chrefydd teulu Cunedda Wledig; ac ymledodd Cristionogaeth i'r Iwerddon, gan ddofi a gwareiddio'r llwythau oedd yno. O hynny allan, nid oedd berygl o'r gorllewin; o hynny allan yr oedd cysylltiad agos rhwng Cymru ar Iwerddon. Daeth yr Iwerddon yn noddfa ffoaduriaid Cymreig; oddiyno, mewn adeg bwysig yn hanes Cymru, lawer canrif wedyn, y daeth Gruffydd ab Cynan a Rhys ab Tewdwr i Gymru'n ôl.

Y mae traddodiadau hefyd am deulu Cunedda'n dod i Gymru, ac yn gorffen uno'r trigolion, drwy ddarostwng pob rhan iddynt eu hunain ac i Gristionogaeth. Y mae'r traddodiadau hyn, nid yn y Mabinogion, ond ym Mucheddau'r Saint. Yn hanes y saint, ceir llawer traddodiad am ymdrech Maelgwn i ddarostwng pob rhan o'r deyrnas dan ei gyfraith a than ei dreth. Fel ymhob oes, hawliai gwŷr