Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/79

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eglwysig ryddid oddiwrth bob treth; a phan ysgrifennwyd y rhan fwyaf o fucheddau'r saint, yr oedd Eglwys Rufain yn gwneyd ymdrech i fod yn rhydd oddiwrth y gallu gwladol.

Pan drowd Cybi Sant i'r môr terfysglyd gan un o frenhinoedd yr Iwerddon, daeth i Sir Fôn, ac yno y gosododd ei babell. Ar amser hwnnw, ebe'r hanes, yr oedd Maelgwn Gwynedd yn teyrnasu ar Ogledd Cymru. Ac ar ryw ddydd ymhlith y dyddiau aeth Maelgwn i'r mynyddoedd i hela. Cododd hydd o flaen y ci, a diangodd am nodded i gell y sant. Dilynodd Maelgwn a’r ci ar ei ôl, ac ebe'r brenin wrth y sant,—Gollwng yr hydd allan. Nis gollyngaf ef, ebe Cybi, oni addewi arbed ei fywyd. Os na ollyngi ef, ebe'r brenin yn ddigllon, mi a’th symudaf oddi ar y tir yma. Ac ebe Cybi,—Ni fedri fy symud oddi ar y tir hwn, y y mae hynny y tu hwnt i dy allu. Duw yn unig fedd y gallu i’m troi oddi yma. Eto mi addawaf yrru'r hydd allan os aberthi ef i’r Hollalluog Dduw, ac os rhoddi i mi y tir y rhedodd dy gi o'i amgylch. Mi a'i haberthaf yn ewyllysgar, ebe'r brenin. Gollyngodd Cybi Sant yr hydd, dilynodd y ci ef, ond daeth yr hydd i’r gell yn ôl. Bu ymdrech wedyn rhwng Maelgwn a Chybi Sant; ond ni fedrai’r brenin wrthsefyll gŵr Duw.

Dengys yr hanes hwn fod Maelgwn wedi ennill terfynau eithaf Ynys Môn. Fel brenin y gogledd y sonnir am dano fynychaf, ond dengys y traddodiadau sydd ym mucheddau saint eraill fod ei dreth gasglwyr yng nghymoedd eithaf deheubarthoedd Cymru. Yr oedd Padarn Sant wedi dod o'r môr, ac wedi ymsefydlu yn Llan Badarn Fawr yng Ngheredigion. Ryw dro daeth Maelgwn, brenin y gogledd, a llu mawr i ddarostwng y de. Pan gyrhaeddodd lan afon Clarach, anfonodd ddau gennad i demtio'r sant â dwy sachaid o fwswgl a graian,—