Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/80

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

trwy ddweud fod y ddwy sach yn llawn o drysorau brenhinol. Daeth y brenin yn ôl, wedi llwyddo i ddarostwng y wlad, a haerodd y ddau gennad fod Padarn wedi cymeryd y trysorau o'r ddwy sach, gan roddi mwswgl a graian yn eu lle. Y pryd hwnnw yr oedd y brenin wedi gorchymyn trwy'r deyrnas fod pob lleidr i gael ei brofi trwy roddi ei law mewn dwfr poeth. Rhoddodd Padarn ei law yn y dwfr poeth, a thynnodd hi oddi yno heb fod yn ddim gwaeth; ond llosgwyd dwylaw y ddau gennad celwyddog. A daeth dallineb ar Faelgwn, a saldra, a chryndod gliniau; a chyffesodd ei fod ar farw oherwydd y sant. Aeth at Badarn ar ei liniau, ac am iachad rhoddodd iddo yr holl wlad rhwng Rheidol a Chlarach.

Ym muchedd Catwg Ddoeth cawn draddodiadau am Faelgwn, a'i fab Rhun ar ei ôl, yn teyrnasu ar Forgannwg. Yr oedd Maelgwn, ebe'r hanes, yn teyrnasu ar Brydain i gyd. Anfonodd ei swyddogion i Wynllwg i gasglu'r dreth, a daethant i dŷ gwas Catwg, gan gymeryd merch brydferth y gwas oddi arno. Ymlidiodd gwŷr Gwynllwg ar ôl y swyddogion, a lladdasant rai o honynt. Yna daeth ofn mawr dros y fro, ofn gwg a dial Maelgwn Gwynedd, a deisyfasant ar Gatwg eu hamddiffyn. Gweddiodd Catwg, ac yn y bore wele golofn niwl yn mynd o'i flaen, ac yn gordroi pebyll a lluoedd Maelgwn fel na fedrid gweled dim. Yn y niwl hwn daeth Catwg at y brenin, a chondemniodd ef i'w wyneb am anrheithio'r wlad yn ddiachos. Cyffesodd Maelgwn ei bechod, a thywynnodd goleuni haf o'i gwmpas, yn lle'r niwl tywyll, pan ddywedodd Catwg fod ei bechodau mawrion wedi eu maddeu iddo. Ac adnewyddodd Maelgwn freintiau Catwg, gan fendithio ei ddisgynyddion os amddiffynnent hwy.

Dywedi'r ym muchedd Teilo hefyd fod Maelgwn yn cadarnhau breintiau Llan Daf. Yn Llyfr Llandaf