Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/81

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y mae buchedd Teilo, a chawn ddesgrifiad ynddo o'r clefyd heintus a dieithr a elwid y Fad Felen. Gelwid ef ar yr enw hwnnw oherwydd fod croen pawb a syrthiai i'w afael yn melynu ac yn sychu. Gwelid ef gan ddychymyg dychrynedig y bobl yn ymdeithio drwy'r wlad. Colofn o gwmwl dyfrllyd oedd, gydag un pen ar y ddaear ac un yn y nefoedd, yn tramwy dros ddyffrynnoedd Cymru. Pwy bynnag ddelai i'w anadl heintus, byddai farw ar unwaith neu byddai'n dihoeni ychydig cyn marw. Ni thyciai meddyg ddim, aberthai pob meddyg ei fywyd wrth fynd i gyrraedd y Fad Felen. Ac anadlodd hwn ar Faelgwn Gwynedd, a bu'r brenin farw tra'r oedd yr haint yn anrheithio ei wlad.Yn ôl traddodiad arall, ni fu Maelgwn Gwynedd farw'n ddirybudd. Rhybuddiasid ef gan fardd rhyfedd ddaethai i'w lys unwaith. O'r môr y daethai hwn, mewn rhwyd bysgota y cafwyd ef ar draeth Cors Fochno, rhwng y Ddyfi ac Aber Ystwyth. Trwy ei hud ef, distawyd cerdd beirdd Maelgwn Gwynedd, trwy ei hud ef enillodd march ei feistr Elffin yr yrfa yn erbyn meirch buanaf Maelgwn Gwynedd. Gyda'i hud a'i fedr i ganu, y maen anodd peidio meddwl mai'r Iberiad ydyw, yn nerthu'r Gwyddel yn erbyn teulu Cunedda. Yr oedd ganddo ddawn proffwyd, a rhagfynegodd, wedi gweled cadwen arian am draed ei feistr, fod gelyn y byddai raid i hyd yn oed Maelgwn Gwynedd blygu o'i flaen,—

Mi a ryddhaf Elffin o fol twr meinin,
Ac y ddyweda i'ch brenin bethe i gyffrin,—
Fe ddaw pryf rhyfedd 'iar Forfa Rhianedd,
I ddial anwiredd ar Faelgwn Gwynedd,
A'i flew a'i ddannedd a'i lygad yn eurwedd,
A hwnnw a wna ddial ar Faelgwn Gwynedd.

Medrwn edrych ar yr ymdrech rhwng Maelgwn ac Elffin fel yr ymdrech rhwng y Brythoniaid a