Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/82

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gwyddyl traeth y gorllewin, cyn iddynt ymdoddi'n un bobl. A medrwn, hwyrach, edrych ar yr ymdrech rhwng beirdd Maelgwn a'r dewin Taliesin fel yr ymdrech olaf rhwng Cristionogaeth a Phaganiaeth am Gymru. Gwelwn yn eglur, oddi wrth y traddodiadau, fod Maelgwn Gwynedd wedi uno Cymru dan ei deyrnwialen ef. Yr oedd y Gwyddyl wedi eu gorchfygu, yr oedd ei longau'n gwylio'r moroedd, yr oedd ei glod a'i dreth—gasglydd ymhob rhan o Gymru. Enillodd Cristionogaeth bob congl,—y mae sant ym mhob man braidd,—a daeth Cymru'n un. Mewn oesoedd i ddod, edrychid yn ôl, dros gyfnod o ryfel ac anrhaith, ar deyrnasiad Maelgwn Gwynedd fel oes heddwch, oes y bardd ar delyn. Ac yn eglwys ger llaw Deganwy yn ei gastell ei hun y bu farw, ebe Sieffre o Fynwy. Dywedai prydyddion oesoedd wedyn am y brenin yn ymguddio mewn eglwys rhag y Fad Felen, ac yn marw wedi edrych arni drwy dwll y clo. Ond nid oedd elyn arall fedrodd ei orchfygu, ac er nad oedd yn hollol wrth fodd y saint bob amser, y mae traddodiad yn rhoddi darlun euraidd o'i lys,—

"A oes yn yr holl fyd frenin mor gyfoethog a Maelgwn? Rhoddodd y Tad o'r nef roddion ysbrydol iddo,—pryd a gwedd, ac addfwynder,—nerth, heblaw pob gallu enaid. Ac heblaw hyn,—pwy ddewrach ei wr, pwy decach a buanach ei feirch, pwy gyfarwyddach a doethach ei feirdd na Maelgwn Gwynedd?" Dau fab a fu i Faelgwn,—Rhun ac Einawn. I Run y bu fab Beli. I Feli y bu fab Iago. I Iago y bu fab Cadfan. Nid oes le i ameu gwirionedd y tipyn hanes hwn, er mai Sieffre o Fynwy a'i dywed, mor bell ag y mae a fynno a lle Rhun yn y gadwen achau.

Yn y traddodiadau darlunir Rhun fel brenin tebyg Faelgwn, ac y maen bur sicr yr adroddir am dano