Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/83

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ystoriau adroddir am Faelgwn ac am Arthur hefyd. Fel Arthur ym Mreuddwyd Rhonabwy ac ym Muchedd Cadog, cawn Run yn eistedd yn ei babell ar ochr rhyw fynydd, ac yn chware gwyddbwyll gyda'i weision. Yr oedd wedi dod i ddeheudir Cymru, ac i gyffinau tir Cadog Sant. Yr oedd yn boeth yn yr haf, a daeth syched ar rai o'i wŷr wrth dramwyo drwy'r gwres. Cofiasant am ysgubor Cadog, ac am y gwartheg blithion oedd yno, ac am y llawnder o laeth. Pan gyrhaeddasant yr ysgubor, ni fynnai gwas y sant roddi llaeth iddynt; eithr ymesgusododd trwy ddweyd faint o glerigwyr a milwyr ei feistr fyddai raid sychedu, os rhoddai ef y llaeth i dorri syched pobl ddieithr. Diwedd hyn oll fu rhoddir ysgubor ar dân.

Yr oedd Rhun yn chware gwyddbwyll o hyd. Ond daeth mwg ysgubor y sant,—ni wnai ond mygu, ni losgai,—dros babell y brenin. Ac er fod llygaid Rhun yn agored, ni welai ddim. Cofiodd am ddallineb ei dad flynyddoedd cynt, ac ymholodd a oedd rhywun wedi ymyrryd â'r sant. Wedi chwilio, cafwyd y gwir. Ac anfonodd Rhun am Gadog, a dywedodd wrtho,—Bendigedig wyt ti gan yr Arglwydd, bydded dy ddyfodiad yn heddychlawn, pechais yn erbyn Duw ac yn dy erbyn dithau. Holodd y sant beth oedd, ac wedi clywed yr hanes, gweddiodd ar i ddallineb Rhun gilio, a chilio a wnaeth wrth ei weddi. Yna cynyddodd Rhun ei freintiau,—y breintiau roddasid iddo gan Arthur a chan Faelgwn ei dad,—gan ddymuno bendith ar ei gymhwynaswyr a melldith esgymundod ar y rhai a'i drygai.

Sonnir am allu Maelgwn, ac am ei lwyddiant,—gŵr garw ydyw yn y traddodiadau, yn meddu syniad am gyfiawnder, ond wedi penderfynu bod a'i air yn air ar bawb. Sonnir am ardderchowgrwydd ymddanghosiad Rhun, ac am ei hoffter o bleser,—gŵr