Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/84

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

moesgar ond aniwair ydyw, wedi etifeddu llwyddiant. Ym Mreuddwyd Rhonabwy ceir yr ymgom hon,—

Pwy yw y gŵr gwinneu y daethpwyd ato gynneu? Rhun fab Maelgwn Gwynedd, gŵr y mae o fraint iddaw ddyfod pawb i ymgyngor ag ef.

Yn hanes Taliesin y mae traddodiad am ei fuchedd, a'i rodiad,—un o'r gŵyr anllataf o'r byd oedd Rhun, canys nid a'i na gwraig na morwyn yn ddiogan ar ei caffai ef ennyd i ymddiddan â hi. Ond tra mae'r rhamant yn darlunio Rhun yn dyfod ar frys at y castell lle'r oedd gwraig Elffin, i amcanu llygru ei diweirdeb hi, y mae cyfreithiau Hywel Dda yn ei ddarlunio'n ymlid gelynion ei wlad, ac yn ymddangos gyda'i lu wrth fur y gogledd.