Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/85

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

CAER

PENNOD VII

BRWYDR CAER

GADEWCH i ni rannu'r amser niwliog yr ydym wedi ceisio tremio iddo yn ddwy ran,- y naill yn gan mlynedd, ar llall yn hanner can mlynedd.

I. 450-550. MAN DYWYSOGION. Erbyn 450 yr oedd lleng olaf Rhufain wedi ymadael, a gafael y ddinas dragwyddol ar Brydain wedi llacio am byth. Cododd pob hen lwyth yn erbyn yr iau haearn; penderfynodd pob tywysog gael coron aur yr hen ymherodraeth; gwelodd y cenhedloedd barbaraidd amgylchai Brydain eu cyfle i ymosod arni,- Gwyddyl yr Iwerddon, Ffichtiaid yr Alban, a thylwythau Teutonaidd isel - diroedd corsiog y cyfandir. Yn y croniclau gwelwn fân lwythau o Eingl yn ymsefydlu hyd oror y dwyrain, gwelwn Wyddyl yn meddiannu traeth y gorllewin. Ni unai'r mân — dywysogion i amddiffyn