Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/86

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eu gwlad, ni ymostyngent i un Gwledig. Yn y caneuon boreua cawn hwynt yn ymladd ar wahan, a'u beddau ar wahan. Ym mhen canrifoedd wedyn y gwnaeth dychymyg iddynt ymladd fel y dylasent, dan faner un Arthur; ac nid ydyw Gildas, yr hwn y tybir ei fod yn cyd - fyw ag Arthur, yn son gair am dano wrth adrodd pechodau a chynhennau brenhinoedd ei oes.

Fel yr oedd tylwythau estronol yn ennill tir, a'u sefydliadau yn taro ar eu gilydd, unwyd hwy gan benaethiaid dan eu brenhiniaeth eu hun. Unwyd Eingl y gogledd dan ddau frenin, ac wedyn dan un. Unwyd Saeson y de dan un brenin. A than eu brenhinoedd, dechreuodd yr Eingl ar Saeson ymosod ar y Cymry. Ac yng ngwyneb y perygl, gorfod i'r Cymry hefyd ymuno, a rhoddi ymrannu heibio am ennyd.

II. 550-600. PRIF DYWYSOGION. Yn y flwyddyn 550 yr oedd MAELGWN yn frenin Gwynedd, ac yn dal ei deyrnwialen uwchben Ceredigion, Dyfed, a Morgannwg; yr oedd CYNAN yn frenin Powys, gyda hen enwr Gwledig arno; yr oedd IDA FFLAMDDWYN yn frenin ar Eingl y gogledd; ac yr oedd CYNRIC yn frenin ar Saeson y de.

Yn 547 ymgastellodd Ida Fflamddwyn ar graig Barnborough, ar draeth y gogledd - ddwyrain, unodd yr Eingl, ac arweiniodd hwy yn erbyn y Cymry, - gan eu gyrru, wedi brwydr ar ol brwydr, yn nes i'r gorllewin. Yng nghaneuon Aneurin a Llywarch Hen ceir hanes yr Urien Rheged a'r Morgan Fawr a'r Rhydderch Hael fu'n ymladd yn ei erbyn. Ac yr oedd yn hawdd i Faelgwn Gwynedd, oherwydd buddugoliaethau'r Eingl, deyrnasu ar Wynedd ar Deheubarth, ac heb gweryla a brenin Powys,-rhag eu hofn.

Tra'r oedd Idan uno Eingl y gogledd, yr oedd Cynric yn uno Saeson y de. Yn 552 yr oedd y Saeson