Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/87

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn ymdeithio tua'r gorllewin hyd ffyrdd Rhufeinig redai drwy ddinasoedd ac heibio beddau dros wastadedd Gwent,—Wiltshire y dyddiau hyn,—tua dyffryn Hafren. Yn 577 gwelodd gwŷr yr Hafren fyddin CEAWLIN yn croesi'r Cotswolds tuag atynt. Cwympodd amddiffynwyr y dyffryn ym mrwydr Deorham, ac yr oedd y dyffryn bras, a'i weithfeydd, a'i ddinasoedd goludog, heirdd, at drugaredd y pagan. Cyrhaeddodd Uriconium a Phen Gwern, lle mae'r Hafren yn gadael Cymru ac yn troi tua'r de,—a gadawodd y ddwy ddinas yn garnedd. Bu Uriconium yn garnedd byth, bu ei hadfeilion yn syndod yr ymdeithydd am ganrifoedd, ac yna cuddiodd y ddaear hi. Ac am Ben Gwern, llys Cynddylan, a'n Hamwythig ni, canai Llywarch Hen,—

Ystafell Cynddylan sydd dywell heno,
Heb dân, heb wely;
Wylaf dro, tawaf wedy.

Ystafell Cynddylan sydd dywell heno,
Heb dân, heb ganwyll;
Namyn Duw, pwy im ddyry bwyll?

Ystafell Cynddylan sydd dywell heno,
Heb gân, heb gerddau;
Digystudd deurudd dagrau.

Y ddinas nesaf o flaen Ceawlin oedd Caer, ac arweiniodd ei lu buddugoliaethus tuag ati. Ond yr oedd mwg y dref wen yn y coed ar perygl wedi galw holl luoedd Powys at eu gilydd i amddiffyn tir Brochwel. Cyfarfyddodd y ddau lu yn Fethanlea, yn 584, yn rhywle rhwng yr Hafren ar Ddyfrdwy, ac yno gorchfygwyd Ceawlin yn llwyr. Dinistriodd Ceawlin ddinasoedd ardderchog, cymerodd ysglyfaeth difesur, ond nid oedd i gael anrheithio Caer. Dychwelodd yn ol yn ddigllon i'w wlad, a nerth ei fyddin wedi diflannu; ac ymhen ychydig o amser yr oedd yn alltud o'i wlad ei hun.