Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/88

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ond nid am byth y gwaredwyd Caer. Pan aeth y perygl o'r de heibio, daeth perygl o'r gogledd. Ar ol Ida Fflamddwyn daeth Ellan frenin yr Eingl, daeth Aethelric ar ei ol yntau, ac yn 593 yr oedd AETHELFRITH yn frenin Northumbria a'i Heingl i gyd. Trodd yn gyntaf yn erbyn Gwyddyl a Chymry'r gogledd, ac yn rhywle ar y mynyddoedd orwedd rhwng . Ystrad Clwyd a Northumbria cyfarfyddodd luoedd unedig y Gwyddyl ar Cymry dan lywyddiaeth AIDAN. Yno, yn 603, mewn lle o'r enw Daegsastan, bu ymladdfa galed, a lladdfa fawr. Ddeng mlynedd a thriugain wedi'r frwydr, ganwyd yr hanesydd Baeda heb fod ymhell o'r fan yr ymladdwyd hi. Cafodd ei hanes, maen sicr, gan rai oedd wedi gweled milwyr fu'n ymladd ynddi, a dywed ef fel hyn:

Yr adeg hon yr oedd Aethelfrith, gŵr da ac awyddus am glod, yn rheoli teyrnas Northumbria, ac yn diffeithio'r Prydeiniaid yn fwy na holl wŷr mawr yr Eingl, fel ag y gellid ei gymharu â Saul, ond yn unig yn hyn,- ei fod yn anwybodus am y wir grefydd. Oherwydd gorchfygodd fwy o froydd Prydeinig na'r un brenin o'i flaen,- gan wneyd y trigolion yn w&375;r treth iddo, neu drwy eu gyrru ymaith a rhoddi Eingl yn eu lle. Cywir y gellir dweyd am dano fendith y patriarch ar ei fab,- Benjamin a ysglyfaetha fel blaidd; y bore y bwyty yr ysglyfaeth, ar hwyr y rhan yr ysbail. Wrth weled ei lwyddiant, daeth Aidan, brenin y Gwyddyl syn preswylio ym Mhyrdain, yn ei erbyn, gyda byddin enfawr gref, ond gorchfygwyd ef gan lu llai nai lu ei hun, ac aeth ar ffo; oherwydd lladdwyd ymron yr oll o'i fyddin mewn lle enwog a elwir Daegsastan. Yn y frwydr honno hefyd lladdwyd Eodbald, brawd Aethelfrith, gyda bron yr oll o'r fyddin a arweiniai. O'r amser hwnnw, ni fedrodd un brenin y Gwyddyl ddod i Brydain ar ymgyrch rhyfel hyd y dydd hwn.

Wedi'r frwydr hon nid oedd dim i'w ofni oddiwrth frenhinoedd y gogledd am amser hir, yr oedd terfynau gogleddol Northumbria'n ddiogel. Gwaith nesaf Aetheifrith oedd ymosod ar Wynedd a Phowys, a'u gwahanu am byth oddiwrth eu cyd-genedl yn y gogledd. Prif dywysogion Cymru oedd IAGO,