Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/89

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

etifedd Maelgwn Gwynedd, a SELYF, mab Cynan Powys. Ymunodd y ddau hyn i achub Caer rhag Aethelfrith, a bu brwydr fawr arall. Felly gellir edrych ar drydydd gyfnod,-

III. 600-613. YMDRECH RHWNG PRIF DYWYSOGION,-yr Angl Aethelfrith, y Gwyddel Aidan, a'r Cymry Iago a Selyf.

Ym mrwydr Caer, yn 613, collwyd y gogledd; ac, o hyn allan, y peth feddylir wrth y gair Cymru yw ein Cymru ni. Y mae i Gaer,- Caer Lleon Fawr ar Ddyfrdwy, - le pwysig yn hanes Lloegr ac yn hanes Cymru. Erbyn hyn y mae Lerpwl wedi cymeryd ei lle fel porthladd y gorllewin, erbyn heddyw nid yw ei muriau yn .werth dim i'r milwr, ac nid hawdd ydyw sylweddoli, heb dipyn o ystyriaeth, fod Caer wedi bod yn un o ddau neu dri lle pwysicaf yr ynys hon. Ei safle wnai Gaer yn bwysig - hi sy'n cysylltu mynyddoedd y gogledd â mynyddoedd y gorllewin, dwy ran fynyddig y Gymru fawr ymestynnai unwaith o enau'r Hafren i enau'r Clyde. Ynddi hi y safai'r Rhufeiniwr i lywodraethu talaeth y gorllewin, a'i law aswy ar y gogledd a'i law dde ar y gorllewin. Iddi hi y doi llongau moroedd y gorllewin, hi oedd clo'r ffyrdd redai yn unionsyth i'r gogledd ac i'r dwyrain dros wastadedd Maelor, ar ffyrdd ymddolennai hyd lan môr Gwynedd ac hyd lethrau bryniau Powys. Yr oedd llawer caer heblaw hon, a llawer caer y llengoedd, ond hi yn unig oedd yn ddigon pwysig i gael yr enw Caer, heb ddim i esbonio pa gaer oedd.

Saif Caer lle mae'r afon Dyfrdwy yn rhoi tro sydyn, gan redeg i'r gogledd orllewin yn llen unionsyth i'r gogledd. Y peth wnaeth i'r afon roir tro hwn oedd bryncyn o garreg goch gyfodai o'r gwastadedd, gan sefyll yn ffordd yr afon. Ar y bryncyn hwn yr adeiladodd y Rhufeiniaid gaer eu llengoedd. Yr oedd yr afon a'i chorsydd yn derfyn

/