Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/90

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac yn amddiffyniad ar du y de a thu y gorllewin; ac ar y ddau du arall cloddiodd y Rhufeiniaid ffos yn y garreg goch feddal. Yna y tu fewn i'r afon a'r ffos, codasant furiau Caer,—muriau, wedi llawer o drwsio arnynt, sydd yn aros hyd y dydd heddyw.

O Gaer rhedai ffyrdd i bob cyfeiriad, gallai'r llengoedd ymdaith i unrhyw fan y byddai gwrthryfel yn galw am danynt. Un diwrnod gwelid mintai'n cychwyn trwy borth y gogledd tua'r mur, i golli eu bywydau hwyrach yng Nghoed Celyddon; ddiwrnod arall gwelid lleng yn cychwyn ar hyd ffordd y dwyrain, ar eu ffordd adref i Rufain neu i ryw ran arall o'r ymherodraeth; diwrnod arall pasiai lleng drwodd ar ei ffordd i fynyddoedd y gorllewin. Gellir edrych ar Gaer fei y fan lle croesai dwy ffordd eu gilydd, - ffordd o'r gogledd i'r de, a ffordd o'r dwyrain i'r gorllewin,- Caer oedd eu man cyfarfod.

Ond, erbyn 600, nid canolbwynt teyrnas oedd Caer, yn anfon milwyr yma ac acw, ond lle ar oror dwy deyrnas elynol, yn crynnu rhag ofn yr Eingl oedd yn ymfyddino yn ei herbyn. Hwyrach mai Brochwel oedd yn ei rheoli hi ar gwastadedd o'i hamgylch. Dywedi'r mai lluoedd Brochwel ymdeithiodd i Fethaniea i gyfarfod Ceawlin, yr hwn, wedi diffeithio dinasoedd gwych yr Hafren, oedd yn cyrchu tua Chaer, i'w diffeithio hithau hefyd. Brochwel Ysgythrog, tywysog Caer Lleon, y geilw Sieffre o Fynwy ef. Efe hefyd alwodd luoedd Gwynedd a Phowys i achub y ddinas pan oedd gelyn arall, mor fuddugoliaethus a Cheawlin, yn ymosod arni o du y gogledd, pan gyfarfyddodd y Cymry ar Eingl eu gilydd ym mrwydr alaethus Caer.

Gwrandawer yr hanes fel y rhydd Baeda ef, - ganwyd ef driugain mlynedd union wedi'r frwydr. Y mae ei gydymdeimlad â'i genedl ei hun, er eu bod ar y pryd yn baganiaid, ar Cymry'n Gristionogion.