Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/91

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Wedi hynny cynhullodd Aethelfrith, am yr hwn y siaradasom o'r blaen, fyddin enfawr, a gwnaeth laddfa fawr ar y genedl fradwrus honno yng Nghaer y Llengoedd, lle enwit gan yr Eingl yn Legacastir, ond yn fwy priodol gan y Prydeiniaid yn Garlegion (Caer Lleon). Cyn dechrau'r frwydr, gwelodd eu hoffeiriaid, a ymgynhullasant i weddio ar Dduw dros y milwyr, yn sefyll o'r neilltu mewn lle diogelach. Gofynnodd pwy oeddynt, ac i ba beth y daethent ynghyd. Yr oedd y rhan fwyaf o honynt yn dod o Fynachlog Bangor, lle'r oedd dros ddwy fil o fynachod yn byw ar lafur eu dwylaw eu hunain. Yr oedd llawer o honynt wedi ymprydio am dri diwrnod, ac wedi dod gydag eraill i weddio yn y frwydr, dan amddiffyniad rhyw Frochwel, yr hwn a'u cadwai, tra y gweddient, rhag cleddyfau y paganiaid. Pan hysbyswyd i Aethelfrith paham y daethant, dywedodd, - Os ydynt yn galw ar eu Duw yn ein herbyn, yna y maent yn ymladd yn ein herbyn â'u gweddiau, er na chludant arfau. Gorchmynnodd, felly, ymosod arnynt hwy i ddechreu, ac yna dinistriodd y gweddill o'r fyddin anfad, eithr nid heb golli lliaws o'i filwyr ei hun. Dywedi'r fod deuddeg cant o'r gweddïwyr wedi eu dinistrio, ac na ddihangodd o honynt ond hanner cant. Trodd Brochwel ei gefn gyda'r gweddill, ar ymgyrch cyntaf y gelyn, gan adael y rhai ddylasai amddiffyn i gleddyfau'r gelyn.

Dyna ddesgrifiad o'r frwydr fel y cofid hi yn nhraddodiadau'r Eingl, fel yr adroddasid ei hanes gan y milwyr fu ynddi wrth eu plant. Ac y maen debyg y cenid llawer cerdd am dani, darn o gerdd ydyw'r adroddiad sydd yng nghroniclau'r Saeson,-

Aethelfrith led his host to Legeceaster
And offslew Welshmen without number.

Ond cwestiwn naturiol ydyw,- Paham yr oedd Brochwel, tywysog Caer Lleon, yn amddiffyn mynachod o'r neilltu, pan y dylasai arwain y milwyr? A phaham yr aeth ar ffo, hen fuddugwr Fethanlea?

Os trown i'r croniclau Cymreig ac i'r croniclau Gwyddelig, cawn eglurhad. Nid Brochwel, tywysog Caer Lleon, oedd y prif dywysog ar y dydd hwnnw. Yr oedd lluoedd Gwynedd yno, dan arweiniad Iago, fab Beli, fab Rhun, fab Maelgwn