Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/92

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gwynedd; a lluoedd Powys, dan arweiniad Selyf fab Cynan. Am y mynachod yr oedd Baedan meddwl, - y mae ei gydymdeimlad gyda'r Cymry pan gofia am danynt hwy, - a naturiol oedd iddo sôn am Brochwel. Naturiol hefyd oedd i groniclau'r Saeson sôn am dano, - efe oedd amddiffynnydd Caer ac arglwydd y morfa, ac efe hefyd drodd ei gefn. Y maen eithaf tebyg fod Aethelfrith wedi meddwl dychrynnu'r Cymry drwy yrru'r mynachod ar ffo, a dangos na thyciai eu gweddiau ar eu rhan. Digon tebyg fod y Cymry'n meddwl nad ymosodai brenin yr Eingl, er mai pagan oedd, ar y mynachod diniwed, gwŷr nad oedd ganddynt ond eu gweddi, a phan welodd Brochwel y paganiaid yn dod, gwelodd nad oedd dim am dani ond ffoi. Digon tebyg fod yr ymosodiad anisgwyliadwy ar y myneich, y rhai o goron merthyroliaeth a gawsant nefawl eisteddfâu, wedi taflu'r fyddin Gymreig i anrhefn, ac wedi peri penbleth i'r ddau frenin oedd wedi eu gosod yn drefnus ar y gwastadedd ger y ddinas. Ond pan gyfarfu byddin yr Eingl â byddin Selyf ac Iago, aeth yr ymladd yn chwerw; nid heb golled yr enillodd Aethelfrith y dydd, a bur ddau frenin Cymreig farw ar y maes.

Brwydr bwysig oedd brwydr Caer, un o frwydrau pwysicaf hanes Cymru. Yn un peth, gwahanodd Gymru oddi wrth y Gogledd, Teyrnllwg ac Ystrad Clwyd, - fel y gwahanasai brwydr Deorham Gymru oddi wrth Wlad yr Haf. Daeth gwastadedd Maelor yn eiddo i'r Eingl, cyrhaeddodd eu tir fôr y gorllewin. Beth a ddaeth o Frochwel nis gwn. Os y Brochwel fu'n ymladd yn erbyn Saeson Ceawlin oedd, rhaid ei fod yn hen, ac nid oedd ganddo lawer o amser i fyw. Os y Brochwel y dywedi'r iddo farw yn 662 oedd, rhaid ei fod yn ieuanc iawn, a gwelodd lawer ymdrech i ail ennill y gwastadedd. Ond, pa un bynnag, wedi 613, yr oedd Caer yn furiau llosgedig