Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/93

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

moelion, ar Eingl yn ymdaenu dros y dyffryn amddiffynnai gynt.

Peth arall am y frwydr hon, - llwyddodd Aethelfrith lle y methasai Ceawlin. Gorchfygwyd Ceawlin gan fyddinoedd Caer, diflannodd ei nerth, ac aeth ei Wessex yn ddarnau. Gwnaeth Aethelfrith furiau Caer yn garnedd, torrodd nerth Cymru trwy ei rhannu'n ddwy, gwnaeth ei Northumbria'n ddiberygl. Y canlyniad oedd hyn, - Northumbria, ac nid Wessex, ddaeth yn brif deyrnas Lloegr i ddechreu; yr Eingl, ac nid y Saeson, lwyddodd gyntaf i ennill hen unbennaeth Prydain oddi ar y Cymry.

Peth arall hefyd, - wedi'r frwydr hon, daeth Gwynedd yn bwysicach na Phowys. O hyn allan y mae Powys yn colli tir, a Gwynedd yn ennill.

Gyda brwydr Caer y dechreua hanes ein Cymru fechan ni. Cyn y frwydr hon nid oedd ond rhan o Gymru fwy. Daeth teyrnas Maelgwn a gweddillion Powys yn noddfa olaf anibyniaeth y Cymro. O 613 ymlaen, y mae ein hanes yn meddu undeb di-dor, y mae yn hawdd ei adrodd, ac yn hawdd ei gofio.