Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/94

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

A OEDD galar yng Nghymru wrth gofio fod mynyddoedd y Gogledd wedi eu colli, wrth gofio fod aml gwm Cymreig yn gorfod dal i ymladd brwydr yn erbyn yr Eingl, wrth gofio fod unbennaeth yr ynys wedi ymadael oddi wrth y Cymry? Oedd, yn ddiameu, ac oherwydd y galar hwnnw y medrodd Cadwallon uno'r Cymry i ennill eu hen goron yn ôl, - am ennyd.

Edrydd Sieffre o Fynwy hanes trawiadol am febyd Cadwallon ac am febyd Edwin, yr hwn fu'n cydymgeisio â Chadwallon am unbennaeth yr ynys. Faint o wir sydd yn yr hanes, nis gwn. Hwyrach mai hanes bywyd y ddau frenin wnaeth i ddychymyg oesau wedyn daflu cysgodion eu brwydrau yn ôl i adeg eu plentyndod. Ond dyma'r hanes. Yr oedd Aethelfrith, brenin yr Eingl, wedi ymladd â Chadfan, brenin y Cymry, am y frenhiniaeth. Gwnaethant heddwch, gan rannu yr ynys rhyngddynt, - ar goron i fod ar ben brenin Cymru. Ac yn yr amser hwnnw alltudiodd Aethelfrith greulon ei wraig. Dihangodd hithau at Gadfan, brenin Cymru, am nodded; ac wedi iddi gyrraedd Cymru, ganwyd Edwin, ei mab. Ar yr un pryd ganwyd Cadwallon, mab Cadfan. A magwyd hwy gyda'u gilydd yn yr un llys, ac anfonwyd hwy i'r ysgol gyda'u gilydd at Selyf, brenin Llydaw. Wedi hynny bu farw Cadfan ac Aethelfrith, a daeth eu dau fab yn frenhinoedd yn eu lle. Yr oedd yr un heddwch i fod rhyngddynt. Ond yr oedd Edwin am wisgo coron hefyd; a rhyw ddiwrnod gwelodd Cadwallon filwr Cymreig yn wylo wrth feddwl mai nid brenin Cymru oedd unig frenin