Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/95

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr ynys. Ac aeth y ddau gyfaill i ryfela am y goron; a Chadwallon a'i henillodd hi.

Y mae llawer o bethau anghywir yn yr hanes fel yr edrydd Sieffre ef, ond dengys yn eglur beth oedd ymgais Cadwallon, - ymgais i adennill brenhiniaeth Cymru. Wrth gymharu croniclau Seisnig, Cymreig, a Gwyddelig, - y cwbl sydd ar gael, - medrir dweud hanes Cadwallon heb fethu rhyw lawer iawn.

Yr oedd Eingl gogledd Lloegr yn ddau dylwyth mawr, - Eingl Bryneich ac Eingl Deifr. Tua 610 yr oedd Aethelfrith yn frenin ar Eingl Bryneich; a'i frawd yng nghyfraith Aella yn frenin ar Eingl Deifr. Bu Aella farw, gan adael ei aer Edwin yn blentyn. Ac ar hynny cymerodd Aethelfrith feddiant o deyrnas y bachgen, gan deyrnasu ar yr holl Eingl. Ffodd Edwin, a phan ar ffo daeth gŵr ato pan yn unigedd anobaith, a dywedodd wrtho y byddai'n frenin grymusach na neb o'i dadau o'i flaen. Yr oedd llwyddiant Aethelfrith yn gwneud i'r Cymry ac Eingl a Saeson y de ymosod arno. Ymladdodd y Cymry ag ef ar forfa Caer, fel y gwelsom; ac er iddo ennill y frwydr honno, ni lethwyd ei elynion. Yr oedd Cadwallon wedi dilyn Cadfan fel brenin Cymru; ac yr oedd Eingl Deifr yn dechrau anesmwytho. Yn 617 bu Aethelfrith farw, a daeth Edwin yn frenin yn ei le.

Y cwestiwn yn awr oedd, - pa un a'i Cadwallon a'i Edwin oedd i fod gryfaf. Hawliai'r ddau unbennaeth a choron yr ynys. Pan ddechreuodd yr ymladd, aeth y rhyfel yn erbyn Cadwallon. Y mae traddodiadau a hanes am y rhyfel. Fel ei ewythr o'i flaen, arweiniodd Edwin fyddin i Gymru. Cyfarfyddodd Cadwallon ef ar y gefnen fynydd sy'n gorwedd rhwng dyffryn yr Hafren a Lloegr; ac wedi ymladdfa waedlyd, gorfod i'r Cymry gilio yn ôl. Yn rhywle ar lannau Conwy ceisiodd Cadwallon rwystro'r Eingl buddugoliaethus ymdeithio ymhellach