Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/96

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i Gymru. Yno hefyd collodd y dydd; ac yn 629 yr oedd Edwin yn gwarchae arno yn ynys Glannog, ar duedd Môn. Y diwedd fu i Gadwallon ffoi o'i wlad; a daeth ynysoedd Môn a Manaw yn eiddo i Edwin. Edwin, felly, oedd unben yr ynys hon; cerddai gyda baner yr unbennaeth yn gorymdeithio o'i flaen.

Yn nydd ei lwyddiant, daeth Edwin yn Gristion, gan geisio arwain ei luoedd paganaidd i ffordd y bywyd. Dywed rhai fod y gŵr hwnnw a'i cysurodd yn unigedd ei adfyd wedi dod ato, gan gynnig cyfraith newydd iddo. Dywed eraill mai Cymro, o'r enw Rhun fab Urien, a'i bedyddiodd. Ond hyn sydd sicr, - collodd Edwin ei nerth wrth droi'n Gristion. Tra'r oedd ei bobl wedi eu rhannu rhwng y grefydd newydd ar hen, daeth Cadwallon yn ôl i Gymru. Ffurfiodd gynghrair â Phenda, brenin paganaidd Eingl y Mers, ac ymosodasant ar Edwin. Yn 633 ymladdasant yn erbyn Edwin ym Meiceren neu Heathfield yn ei wlad ei hun, gan ei lwyr orchfygu. Ac yn y frwydr honno cwympodd Edwin.

Bellach y mae Cadwallon yn unben yr holl ynys, wedi ennill y Gogledd yn ôl hyd at y mur Rhufeinig, ac y mae Cymru gymaint ag y bu erioed. Ac yr oedd Cadwallon yn dal ei deyrnwialen uwchben yr Eingl, a chafodd y Cymry oedd yn eu mysg lonydd. Dywed prif hanesydd yr Eingl, anwyd ddeugain mlynedd ar ôl y frwydr, mai caled oedd iau Cadwallon ar y gorchfygedig. Yr oedd Cadwallon, meddai, er ei fod yn proffesu Cristionogaeth, yn ymddwyn yn null barbariaid. Nid arbedai wragedd, na ieuenctid tyner plant, ond rhoddai hwynt i farwolaeth greulon, gan ddiffeithio yr holl wlad, a phenderfynu difodi holl hil yr Eingl o fewn terfynau Prydain.

Gwnawd llawer ymdrech i ysgwyd iau Cadwallon ymaith. Daeth meibion Aethelfrith,—Osric ac