Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/97

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Eanfrid,—yn ei erbyn. Casglodd Osric fyddin, a gwarchaodd ar Gadwallon mewn dinas gadarn; ond rhuthrodd lluoedd Cadwallon allan, gan ddinistrio Osric a'i fyddin. Amser du i'r Eingl oedd yr amserau hyn, - cawsant hwythau brofi chwerwder caethiwed.

Yr oedd byddin Cadwallon yn fawr, ac ymffrostiai ei bod yn anorchfygol. Ond brenin ar luoedd o frenhinoedd eraill oedd; ac yr oedd yn anodd cael y rhai hynny i ymlawenhau yn ei unbennaeth, yr oedd yn anodd cadw ei fyddin ar y maes o hyd. Daeth Oswald, mab arall i Aethelfrith, yn erbyn Cadwallon. Casglodd fyddin, a threfnodd hi o amgylch croes yn ymyl mur y gogledd. Ac yno, mewn lle elwir yn Denisesburn a Catscaul gan wahanol haneswyr, yng ngolwg mur y Rhufeiniaid, gorchfygwyd y Cymry a syrthiodd Cadwallon.

Ni chredai y Cymry oesoedd wedyn fod Cadwallon wedi cwympo. Credent ei fod wedi byw i reoli'r ynys fel uchel unben tra'r ymladdai mân frenhinoedd am dalaethau dano, ac y cymodent wrth ei orchymyn. Y boneddicaf a'r cyfoethocaf Gadwallon, brenin y Brytaniaid, ebe Ystorya Brenhinoedd y Brytanieit, yn dreuledig o henaint, - pythefnos wedi calan gaeaf yr aeth o'r byd hwn. A'i gorff a irwyd ag ireiddiau gwerthfawr, ac a ddodwyd mewn delw o efydd a wnaethid ar ei fesur a'i faint ei hun. Ar ddelw honno a ddodwyd ar ddelw march o efydd, yn arfog, yn rhyfedd ei thegwch. A honno a ddodwyd ar y porth parth a'r gorllewin yn Llundain, yn arwydd y rhagddywedigion fuddugoliaethau uchod, er aruthredd i'r Saeson.

Ond ar faes y gad, draw wrth y mur, y cwympodd Cadwallon, yn 635.

Ni fu diwedd ar yr ymdrech gyda marw Cadwallon. Unodd tywysogion y Cymry gyda Phenda