Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/98

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn erbyn Oswald. Yr oedd y Cymry ac Eingl Penda mewn perygl, oherwydd yr oedd Oswald a'i luoedd yn ymdeithio tua'r de. Fel yr aeth y Cymry i gyfarfod Edwin, aethant i gyfarfod Oswald hefyd. Ymunasant âg Eingl Penda, ac mewn lle o'r enw Maserfield, yn rhywle ar wastadedd Maelor, heb fod ymhell o Groes Oswallt, gorchfygasant a lladdasant Oswald. Yn 642 y bu hyn. Ieuanc oedd Oswald pan fu farw, dim ond deunaw ar hugain oed. Yr oedd galar mawr ymysg ei bobl ar ei ôl, oherwydd yr oedd yn frenin trugarog a da. Clywodd Baeda hen bobl yn dweud fod llawer wedi eu hiachau wrth orwedd ar y pridd lle syrthiodd Oswald.

Ieuanc hefyd oedd brenin Cymru, - Cadwaladr, mab Cadwallon. A pheth anodd iawn i wŷr ieuainc oedd cadw eu teyrnasoedd yn gyfaeon yn yr amseroedd hynny. Ond cafodd Cadwaladr le teg i dreio. Yr oedd ei gyfaill, yr hen bagan mawreddog Penda, yn gymorth iddo. Ac yr oedd Northumbria, gwlad Edwin ac Oswald, wedi ei rhannu rhwng Oswiu ac Oswine. Cyn hir medrodd Oswiu gynllunio brad Oswine, a daeth yn frenin ar Northumbria i gyd. Yna cychwynnodd ar hyd llwybr ei gyn - frenhinoedd yn erbyn Penda a Chadwaladr. Cymerodd y frwydr le mewn maes ar lan afon,-Winwaedfield, - yn 655. Cyn y frwydr gadawodd amryw frenhinoedd Penda, gyda'u lluoedd. Ymysg y rhain yr oedd rhyw frenin Cymreig o'r enw Cadafael, yr hwn a lysenwyd wedi hynny yn Gad-afael Cad-ornedd. Oswiu drechodd, a bu Penda farw yn y frwydr honno.

Yn awr yr oedd Oswiu yn barod i ymosod ar Gymru a Chadwaladr. Ond daeth brenin mwy ofnadwy i'r wlad. Ar ôl y rhyfeloedd meithion, daeth haint. Ymysg eraill bu Cadwaladr farw o honno, tua 664. Oes enbyd oedd yr oes honno, fel pob oes wedi rhyfeloedd hir. Dywed traddodiad, er hynny, mai yn Rhufain y bu Cadwaladr farw.