Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/99

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Tywyll a niwliog ydyw hanes Cymru am dros gan mlynedd wedi cwymp Cadwallon a marw Cadwaladr. Yr oedd Eingl Northumbria wedi meddiannu gwastadedd Maelor, ac wedi gwahanu Cymry ein Cymru ni oddi wrth eu brodyr yn y gogledd. Ymladdent ar wahan mwy, -ein tadau ni yn erbyn Northumbria a Mercia, a Chymry'r gogledd yn erbyn Northumbria a'r Pictiaid, - hen Wyddyl Ffichti oedd yn parhau i ymosod arnynt o fynyddoedd gogledd yr Alban. Clywai y Cymry hanes yr ymladd rhwng eu brodyr a'r Pictiaid; clywsant am frwydr Maes Ydawc, lle lladdwyd Talargan, brenin y Pictiaid, gan y Brytaniaid; ond cyn hir daeth newydd arall, - fod y paganiaid wedi rhuthro ar Alclwyd, y gaer safai ar graig uchel fel amddiffynfa fwyaf gogleddol y Cymry, ac wedi ei dinistrio. Dumbarton, yn nyffryn y Clyde, oedd y gaer hon; ac y mae muriau duon eto'n gwgu ar ben y graig yng nghyfeiriad dyffrynnoedd mynyddig y Pictiaid ac i lawr dyffryn y Clyde, ond nid yr un muriau ag a fu'n herio'r Pictiaid ddoi i lawr dyffryn y Leven a'r paganiaid o fôr - ladron ddoi i fyny'r Clyde.

Ond yr oedd gan y Cymry ddigon o drallodion eu hunain, heb sôn am drallodion Ystrad Clwyd. Y mae'n wir fod Northumbria, eu hen ddinistrydd, yn dechrau gwanhau. Ar ôl Oswiu daeth Egfrith, efe arweiniodd fyddin yn erbyn y Pictiaid yn 686, ym mrwydr Dun Nechtain. Wedi hynny daeth llawer o drallodion i ran Northumbria; ymosodid arni gan y Pictiaid a chan fôr-ladron, ac nid oedd mwyach yn un wlad gref.

O gyfeiriadau eraill yr oedd perygl Cymru'n awr. Yr oedd perygl oddi wrthi hi ei hun. Ni fynnai ymuno. Pan fydd gwlad wedi colli rhan bwysig, fel rheol daw undeb y rhannau syn weddill yn dynnach. Ond wedi colli Ystrad Clwyd ac wedi colli ei hunbennaeth olaf, llaciodd undeb y Cymry, ac