Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/100

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ymroddodd pob tywysog i wneud drwg yn ei ffordd ei hun. Yn ôl pob tebyg ni bu brenin ar holl Gymru am beth amser ar ôl Cadwaladr. Yr oedd Northumbria yn gwanhau, Mercia eto heb ddechreu bygwth, a'r cenhedloedd duon eto heb ddod fel cwmwl o'r môr. A chan nad oedd perygl o'r tu allan i'w huno, dechreuodd y tywysogion Cymreig ymladd â'u gilydd. Dywed Brut y Tywysogion mai Ifor, mab brenin Llydaw, fu'n teyrnasu ar y Cymry am beth amser. Dywed traddodiad mai amser mân ryfeloedd a haint a dychryn a daeargrynfâu oedd yr amser hwnnw, - trodd y llaeth a'r menyn yn waed, a'r lleuad a drodd yn waedol liw. Crynodd y ddaear yn Llydaw; glawiwyd cawod o waed ym Mhrydain; yr oedd yr haint yn yr Iwerddon. Yn yr amseroedd hynny, anodd oedd byw ond wrth ysbeilio neu ryfela. Yr oedd milwyr hur yn heidio yng Nghymru. Gyda milwyr logasent yng Nghymru yr ymladdai mân frenhinoedd yr Iwerddon â'u gilydd. Onid oedd un o hil Cunedda i gasglu byddin, i uno Cymru, ac i rwystro'r dadfeiliad andwyol?

Rhodri Molwynog oedd y cyntaf i wneud hynny. Mab Tudwal, ac wŷr Cadwaladr oedd efe. Gelwir ef yn frenin y Brytaniaid, - edrychid arno fel olynydd Cadwaladr a Chadwallon. Paham y gadawodd y mân dywysogion i ŵr o linach Cunedda ail osod iau brenin ar eu gwarrau? Yr oedd Mercia'n dechrau bygwth Cymru, - dyna'r rheswm. Gwastad-diroedd canolbarth Lloegr oedd Mercia, tylwythau'r Eingl wedi ymuno dan frenhinoedd galluog. Daeth tri brenin nerthol ar ôl eu gilydd ,- Aethelbaid, Offa, Cenwulf, - a'u penderfyniad oedd darostwng yr ynys a gwisgo ei choron., Ymosododd Mercia ar Gymru yn y gorllewin ac ar Wessex yn y de, gan geisio ehangu ei therfynau dros y Tafwys ar Hafren yr un pryd. Bu brwydrau yn Heilin yng Nghernyw, ac yng Ngarthmaelog ac ym Mhen Coed yn y