Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/101

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Deheubarth; ond ni wyddys i sicrwydd pa frenin oedd yn ymosod ar Gymru yn y brwydrau hyn, na pha frenin oedd yn amddiffyn. Y tebyg yw mai brwydrau rhwng Rhodri Molwynog ac Aethelbald oeddynt. Collodd Aethelbald frwydr yn erbyn Saeson Wessex; a bu ef a Rhodri Molwynog farw yn 755, - y brenin geisiai unbennaeth y Saeson a'r brenin geisiai unbennaeth y Cymry.

Wedi marw Rhodri Molwynog, diflannodd pob gobaith am undeb Cymru drachefn. Dechreuodd ei ddau fab ieuanc, Cynan Tindaethwy a Hywel, ymladd â'u gilydd am ynys Môn, gan yrru y naill y llall allan o honni lawer tro. Tra'r oeddynt hwy yn ymladd â'u gilydd, a thywysogion Cymru'n dilyn eu harfer, yr oedd Offa'n teyrnasu. Dyma un o'r gelynion chwerwaf a galluocaf gafodd Cymru erioed. Yr oedd ganddo amcan clir o'i flaen. Fel yr oedd Siarl Fawr yn gwneud y cyfandir yn un ymherodraeth, felly meddyliai Offa am wneud pob rhan o ynys Prydain naill a'i yn rhan o'i dalaeth ef, Mercia, neu'n ddarostyngedig iddi. Sefydlodd archesgobaeth yn Lichfield, i wneud Mercia'n anibynnol ar Gaer Grawnt a Chaer Efrog; cafodd feddiant o brif afonydd Lloegr, tramwyfeydd masnach, a dengys yr arian a fathodd fod ei fryd ar lywodraethu masnach Prydain. Ymysg yr afonydd ddaeth yn eiddo iddo, yr oedd yr Hafren o'r .Amwythig i'r môr. Estynnodd derfynau Mercia ymhell i Gymru, a galwyd hen glawdd redai gydag ymylon y mynyddoedd ar ei enw ef.

Teyrnasodd Offa am amser maith, am ddeugain mlynedd namyn un, o 755 i 794. Pan ddechreuodd deyrnasu, yr Hafren oedd y terfyn rhwng Cymru a Lloegr, yr oedd Cymru yn cyrraedd hyd Gaer Wrangon (Worcester) a Chaer Loew (Gloucester). Ar ddiwedd oes Offa yr oedd y Cymry wedi colli, nid yn unig y wlad dda rhwng Hafren a Gwy, ond