Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/102

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

llawer o'r hyn sydd y tu yma i'r Wy a'r ar Ddyfrdwy. Aeth yr Amwythig, prif ddinas Powys, a Henffordd yn eiddo i'r Eingl. Nid heb ymladd brwydrau lawer yr aeth Cymru mor fechan,-yn llai nag ydyw yn awr. Bu brwydr yn Henffordd, pan groesodd Offa'r Hafren, i'w rwystro rhag croesi'r Wy hefyd. Dro ar ôl tro arweiniodd ei fyddin i Gymru, gan ddiffeithio. Ac yna y bu distryw y Deheubarthwyr gan Offa frenin, - dyna'r hanes adroddir o hyd. Yr oedd Cymru ar ei drugaredd; yr oedd dau fab Rhodri Molwynog yn ymladd â'u gilydd draw ym Môn; ac ni fedrai tywysogion gwahanol dalaethau Cymru ond aros hyd nes y byddai raid iddynt wynebu Offa bob yn un.

Ar ôl Offa daeth Cenwulf, a bu yntau'n ddychryn i Gymru o 785 hyd 819. Hawdd oedd iddo orchfygu'r tywysogion; ni fynnent ymuno. Meredydd, brenin Dyfed; Caradog, brenin Gwynedd; Cadell, brenin Powys; Arthen, brenin Ceredigion, - syrthiasant bob yn un. Brodyr yn ymladd, a'r Saeson yn diffeithio, - dyna hanes brenhiniaeth anhapus Cynan Tindaethwy, rhwng 755 a 815. Y Saeson yn lladd brenin Gwynedd; colli anibyniaeth Eglwys Cymru llosgi Tyddewi yn y de a Deganwy yn y gogledd; y Saeson yn diffeithio mannau diogelaf Cymru, - mynyddoedd Eryri a breniniaethau Dyfed; colli brwydr, colli Rhufoniog, darnio Powys, - nid oes adeg mor alaethus yn hanes Cymru i gyd. Yr oedd yn hawdd gweled fod y gogledd wedi ei golli am byth; ac yr oedd yr undeb ar unbennaeth oedd ynglyn a'r mur wedi diflannu o Gymru. Ac yr oedd gelyn arall yn dod o'r môr.

—————————————