Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/7

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Hanes Cymru - Owen M Edwards

Cyfrol 1


RHAGYMADRODD

Ail argraffiad ydyw y rhan fwyaf or llyfr bychan hwn o'r penodau ymddanghosodd yng nghyfrolau cyntaf Cymru. Y mae'r cyfrolau hynny wedi mynd yn brin erbyn hyn; ac nis ceir hwy ond trwy daro bargen ail law; ac felly y mae'r ffordd yn rhydd i mi ail argraffu'r penodau hanes. Yr oedd trefn y penodau, fel yr ymddanghosasant, yn gwneyd yr hanes ychydig y fwy dyrus nag y dylasai fod; yn yr argraffiad hwn y mae'r penodau wedi eu hail drefnu o'r dechreu i'r diwedd, er mwyn i'r hanes fod yn gliriach.

Addawodd y rhai sy'n rheoli arholiadau lleol Rhydychen roddi Cymraeg ar restr eu testynau, ar yr amod fod i'r penodau hyn gael eu cyhoeddi yn ffurf llawlyfr hylaw. Bwriedir ef hefyd ar gyfer Ysgolion Canolraddol, ar gyfer y cyfarfodydd llenyddol roddir ymron i gyd i ddysgu hanes Cymru, ac ar gyfer aelwydydd Cymreig.

Yn y bennod gyntaf rhoddir desgrifiad byr o wlad y Cymry. Y mae'n amhosibl deall hanes unrhyw wlad heb wybod am ffurf a natur ei daear. Gall yr athraw ychwanegu at y darluniau roddir o'r mynyddoedd; goreu po fwyaf o fanylion ddysgir am ddaearyddiaeth a daeareg.

Sylwer mai rywbryd rhwng 577 a 613 y dechreuodd y mynyddwyr alw eu hunain yn Gymry, a'u gwlad yn Gymru: ond gelwir hwy ar yr enwau hyn o'r dechreu yn w llyfr hwn, er mwyn eglurder.

Yn yr ail bennod desgrifir y bobl y ffurfiwyd y genedl Gymreig o honynt. Yr Iberiaid ddaeth i ddechreu, yna'r Gwyddyl Celtaidd, yna'r Brythoniaid Celtaidd - hwy yw corff mawr y genedl. Yna daeth Rhufeinwyr, Eingl, Saeson, cenhedloedd duon, Normaniaid, ac y mae dyfodiaid yn dod o hyd.

Yn y drydedd bennod desgrifir y Rhufeiniaid roddodd atalfa am ennyd ar grwydriadau'r cenhedloedd tua'r gorllewin. Gwnaethant Brydain hefyd yn rhan o'u hymerodraeth, gorchfygasant lwythau rhyfelgar Cymru, newidiasant lawer agwedd ar eu bywyd, a gadawsant ar eu holau deimlad fod yr ynys yn un, a fod pawb i ufuddhau i un brenin. Erbyn eu hymadawiad hwy, yr oedd mwyafrif y Cymry'n Gristionogion hefyd.