Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/8

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn y bedwaredd bennod adroddir hanes y cenhedloedd Teutonaidd barbaraidd yn torri trwy'r caerau oedd ar draeth dwyreiniol Lloegr, yn ennill gwastadedd Lloegr, ac yna yn cau am fynyddoedd Cymru.

Yn y bumed bennod cesglir traddodiadau am yr ymladd rhwng y Cymry a'r barbariaid, traddodiadau sydd wedi ymglymu yn enw Arthur arwr dychymyg Cymru

Yn y chweched bennod ceir hanes Maelgwn Gwynedd a'i deulu. Hwy unodd Gymru gyntaf wedi cwymp y Rhufeiniaid, eu llynges hwy amddiffynnodd ei glannau, saint eu dyddiau hwy orffennodd ennill Cymru i Grist.

Yn y seithfed bennod adroddir hanes brwydr Caer, - y frwydr benderfynodd lle yr oedd terfynau Cymru i fod. Y mae hanes dyddorol i'r hen dref hon, yr olaf o'r dinasoedd mawr Rhufeinig i herio'r barbariaid.

Yn yr wythfed bennod darlunir ymdrech Cadwallon i enill y gogledd yn ol, ac i wneyd y mur yn derfyn gogleddol i Gymru drachefn. O'r diwedd cyll y Cymry unbennaetb yr ynys; ac nid yw brenin Cymru onid un ymysg nifer o frenhinoedd cedyrn o'i mhewn.

Wedi gweled terfynau gweddol eglur rhwng y Cymry a'u cymdogion, gwelwn, yn y nawfed bennod, elyn newydd yn dod o du'r mor,- y cenhedloedd duon. Ymosodid ar Gymru'n awr o'r mor ac o'r tir. Rhodri Mawr oedd prif dywysog y dyddiau hyn; a'i wyr, Howel Dda, gasglodd gyfreithiau ei wlad.

Yn y ddegfed bennod adroddir hanes dau frenin mwyaf Cymru yn y cyfnod hwn, - Llewelyn ab Seisyllt a Gruffydd ab Llywelyn

Yn yr unfed bennod ar ddeg ceir cipolwg ar hen grefyddau Cymru; allor goch y derwydd Iberaidd, yr addoli hynafiaid Celtaidd, yr hen dduwiau.

Yn y bennod olaf amlinellir hanes Cristionogaeth yng Nghymru, - y tyfu, y trefnu, yr ymrannu, y rheoli gan y saint, yr ymdrech yn erbyn Rhufain a Lloegr.

Yna rhoddir trem ar ddadblygiad bywyd Cymru hyd 1063, - ei daearyddiaeth, ei bwystfilod, ei thrigolion, a dull bywyd ei hanes.