CYNHWYSIAD
PENNOD I CYMRU Daear Cymru. Mynyddoedd wedi eu hamgylchu gan wastadedd a mor, cadarnle anibyniaeth a chartref ymraniad. Prif deuluoedd y mynyddoedd,-Eryri, y Berwyn, Plumlumon, y Mynydd Du.
PENNOD II Y CENHEDLOEDD CRWYDR
Pobl Cymru, ddaeth yma'n don ar ol ton,
- I. Iberiaid. Pobl fyrion pryd du o'r de. Eu nodweddion. Hwy yw prif elfen y genedl eto.
- II. Celtiaid (Brythoniaid a Gwyddyl). Pobl dal bryd goleu, o ganolbarth Ewrob. Eu hiaith hwy yw'r iaith Gymraeg.
- III. Rhufeiniaid, yn rheolwyr, milwyr, a marsiandwyr.
- IV. Teutoniaid (Saeson, Eingl, &c.). Llwythau ddaeth o wastadeddau genau'r Rhein o 450 ymlaen.
- V. Pobl gymysg-
- (a) Cenhedloedd duon, o benrhynnoedd y gogledd, -1081.
- (b) Normaniaid, Ffemingiaid, Llydawiaid, &c., 1063—1272.
- (C) Dyfodiaid ereill,-milwyr, gweithwyr, &c., —hyd heddyw.
Gwaith Rhufain-Atal y crwydro a rhoi trefn undeb ar y byd. Darganfod Prydain gan y Groegwr Pytheas. Ymweliad Cesar, 55 C.C. Tua chan mlynedd wedyn, yn 43, y mae'r Rhufeiniaid yn penderfynu gwneyd Prydain yn rhan o'u hym- herodraeth.
43-78. Y goncwest. Aulus Plautius, Ostorius Scapula, a'i frwydr fawr a Charadog ; Aulus Didius a Veranius a'r Silur- iaid ; Suetonins Paulinus yn difodi cartref derwyddon yn ynys Mon, ac yn llethu gwrthryfel Buddug: Julius Frontinus yn gorchfygu'r Siluriaid.
78—120. Y Rhufeneiddio. Daeth Agricola yn 78, i orffen gorchfygu ac i reoli'r wlad mewn trefn a heddwch. Gwneyd ffyrdd, adeiladu tai a dinasoedd, codi mwn.