Hanes Cymru O M Edwards Cyf I/Y Cenhedloedd Crwydr
← Cymru | Hanes Cymru O M Edwards Cyf I Y Cenhedloedd Crwydr gan Owen Morgan Edwards Y Cenhedloedd Crwydr |
Y Rhufeiniaid → |
HANES CYMRU Cyfrol I - O. M. EDWARDS
PENNOD II - Y CENHEDLOEDD CRWYDR
“ | Diwrnod tywyll du, diwrnod cymylog a niwliog, fel y wawr wedi ymwasgaru a'r y mynyddoedd; pobl fawr a chryfion, ni bu eu bath erioed, ac ni bydd eilwaith a'r eu hol hyd flynyddoedd cenhedlaeth a chenhedlaeth. | ” |
Y CYNTAF, hwyrach, i ymgartrefu yn y mynyddoedd oedd yr Iberiad. Un byr ac egwan oedd ef; yr oedd ei bryd yn dywyll. a'i wallt a'i lygaid yn ddu; ei ben yn hir a'r ei gorff byr; ei dalcen yn gul, a'i ên yn hir. Er eiddiled oedd, yr oedd bywyd rhyfedd ynddo; ac yr oedd eiddilwch ei gorff yn gwneud ei enaid yn effro, ac yn fyw i weled ac i glywed ac i deimlo pob peth oddi allan. Yr oedd sŵn y môr a su gwynt y mynydd yn ei glustiau o hyd, ymhyfrydai mewn prydferthwch lliw a melusder sŵn. Ogof y mynydd oedd ei gartref, a'i fedd. Yn ddiweddarach yn ei hanes, gwnai dŭ hir a bedd hir a'r lun ogof, - mynedfa hir gul ac ystafell yn ei phen draw. Cerrig nadd oedd ganddo'n offer rhyfel a heddwch; ni wyddai pa fodd i weithio pres neu haearn, ac afluniaidd iawn oedd ei ychydig lestri pridd.
Bu Prydain i gyd yn eiddo'r Iberiad hwn. O'r de ddwyrain y daeth. Pe dilynem ei lwybr, a phe crwydrem trwy'r gwledydd fu unwaith yn gartref iddo, aem trwy Ffrainc a Spaen, ac a'r hyd traeth Môr y Canoldir, ochr Ewrob neu ochr Affrig, tua'r Aifft ac Arabia.
Er ei orchfygu ymhob gwlad yr ymgartrefodd ynddi, y mae wedi gor-fyw llawer cenedl o orchfygwyr. Efe yw Siluriad Gwent a Morgannwg, - gellir ei weled a'r nos Sadwrn yng Nghaer Dydd neu Gasnewydd, gwelir ef yn mwynhau ac yn beirniadu canu'r Eisteddfod, ac nid anaml y cyfarfyddir ef yn nrysau Coleg yr Iesu. Trwy Gymru i gyd, yn enwedig yng Ngwent, ym Morgannwg, ac yng Ngwynedd, y mae ef wedi aros, - rhoddodd ei bryd a'i athrylith i'w orchfygwyr. Ond collodd ei iaith, ac nid oes yn aros o honni erbyn hyn ond ambell enw lle.
Iaith y Celt ydyw iaith Cymru Gymreig heddyw. A'r ôl yr Iberiad y daeth ef, gan wneud i hwn ymostwng iddo, neu gilio tua'r gorllewin o'i flaen. Hwyrach mai atgofion am yr ymdrech rhwng yr Iberiaid a'r Celtiaid ydyw rhai o'r ystraeon adroddir o oes i oes wrth blant am y tylwyth teg. Adroddir am wŷr bychain yn canu rhyw hen alaw felys, ac yna'n diflannu i ogof yn y ddaear, - efallai mai'r Iberiad yn dianc o flaen y Celt oedd hwn, yn amser y rhyfel rhyngddynt.
Yr oedd y Celt yn dal, yn ŵr o gryfder corfforol mawr, gyda phen crwn, llygaid gleision, a gwallt coch neu grasgoch. Pan ddaeth i Brydain yr oedd wedi dysgu adeiladu caban crwn uwchlaw pantle yn y ddaear; yr oedd wedi dofi'r ci a'r ych a'r afr; ac yr oedd ganddo offer pres, yn lle offer Carreg ac asgwrn yr Iberiad, yn fuan wedi iddo ymgartrefi yma. Y mae ei fedd fel ei fwthyn, yn grwn; ac nid yn hir fel bedd ac ogof yr Iberiad.
O'r iseldiroedd ddyfrheir gan y Rhein a'r Scheldt y daeth y Celt i Brydain. Pe olrheiniem ei lwybr ef, a phe crwydrem drwy'r gwledydd fu'n gartref iddo, aem a'r hyd y Rhein, ac a'r hyd y Danube wedi hynny, ac o'i dyffryn hi ymlaen i ganolbarth Asia. Yr oedd llwybr y Celt yn gyfochrog, felly, â llwybr yr Iberiad, - y naill yn dod drwy ganolbarth Ewrob, a'r llall a'r hyd ei godrau. Ym Mhrydain ymgyfarfyddodd y ddau bobl, a thrigasant ynghyd o fewn yr un ynys.
Daeth y llanw Celtaidd dros yr ynys a'r ddwywaith, yn ôl pob tebyg. Daeth y Gwyddel i ddechreu, a'r Brython a'r ei ôl. Bu ymdrech rhwng y Gwyddel a'r Iberiad am y mynyddoedd i ddechrau, ac yna rhwng y ddau â'r Brython oedd yn eu dilyn. Cyrhaeddodd yr Iberiad draeth eithaf yr Iwerddon; cyrhaeddodd y Gwyddel ymhell i'r ynys honno; cyrhaeddodd y Brython draeth gorllewin Prydain, rhwng afon Mawddach a'r afon Wyre, ond ni chroesodd y môr i'r Iwerddon.
Gwelir, felly, mai ymsymud tua'r gorllewin yr oedd y cenhedloedd hyn. Ac nid hwy oedd y cenhedloedd olaf; cawn weled y Sais a'r Norman, - dau dylwyth yn perthyn i'w gilydd fel y perthynai'r Gwyddel a'r Brython i'w gilydd, - yn dod â'r eu holau. Pan ddarlunnir Prydain i ni gan y Rhufeiniaid, y mae'n debyg fod yr Iwerddon a'r rhan fwyaf o fynyddoedd gorllewin Prydain yn eiddo'r Gwyddyl, ac yr oeddynt yn prysur ymgymysgu â'r Iberiaid oeddynt wedi gorchfygu. Dros yr holl wastadeddau yr oedd y Brythoniaid wedi ymledaenu, gan ymgymysgu â'r Gwyddyl a'r Iberiaid orchfygasent hwythau.
Pwy oedd yng Nghymru pan anwyd Crist? Yr oedd yma Iberiaid, Gwyddyl, a Brythoniaid. Yr oedd yr Iberiaid a'r Celtiaid wedi ymgymysgu dros y wlad. Rhennid y wlad rhwng y ddau dylwyth Celtaidd, - rhwng y Gwyddyl a'r Brythoniaid. Gwlad y Gwyddyl oedd Gwent, Morgannwg, Dyfed, a Gwynedd. Ac yr oedd y Gwyddyl yn dri llwyth, - y Demetæ yn Nyfed; y Silures yng Ngwent a Morgannwg; a llwyth Gwynedd, y tu hwnt i'r Ddyfrdwy a'r Mawddach. O'r Brythoniaid nid oedd ond un llwyth wedi cyrraedd Cymru, - yr Ordovices: a chanolbarth Cymru, mynyddoedd y Berwyn a'r Aran a Phlunlumon, oedd eiddo hwn.
Gwelir felly fod y Gwyddyl wedi ymdaenu dros ein holl wlad, ac wedi ymgymysgu â'r Iberiaid bychan pryd du. A gwelir fod yr Ordovices Brythonig wedi ymwthio drwy ganol y llwythau Gwyddelig hyd nes y cyrhaeddasant y môr, gan rannu Cymru Wyddelig yn ddwy.
Tywyll iawn, hyd yn hyn, ydyw'r hanes am yr ymdrech rhwng y Gwyddel a'r Brython. Y mae eu caerau eto'n aros hyd aeliau ein bryniau, ond mud ydynt,—nid oes neb wedi eu dysgu i ddweud eu hanes. Hwyrach mai trwy ganolbarth Cymru yr oedd yr Iberiad a'r Gwyddel wedi mynd i'r Iwerddon, ac mai mynd i'r gorllewin a'r eu holau yr oedd y Brython. Hwyrach fod y Brython hefyd wedi ymledaenu dros Gymru i gyd; ac mai dod o'r Iwerddon yn eu holau, oherwydd diffyg lle ac amlder gelynion yno, ddarfu'r tylwythau welodd y Rhufeiniaid yng Ngwynedd ac yn y Deheubarth. Hwyrach fod y llwythau hyn hefyd wedi mynd i'r Iwerddon hyd y llwybr Brythonig trwy ganol Cymru, wedi ymrannu yn ddau dylwyth yn y wlad honno,—y naill yn troi tua'r gogledd a'r llall tua'r de,—ac yna wedi troi'n ôl i Gymru.
Beth bynnag am y dull y daeth, y mae'n amlwg fod y Celt wedi dod, ac wedi gorchfygu'r Iberiad oedd yma o'i flaen; ac y mae'n eglur fod y Celt a'r Iberiad wedi mynd yn un genedl. Y mae'n hawdd esbonio pam y gorchfygodd y Celt hefyd,—yr oedd yn gryfach. Yr oedd ganddo hefyd, yn ôl pob tebyg, arfau pres; ac nid peth hawdd oedd i ddyn bychan heb ddim ond carreg yn ei law wrthsefyll dyn mawr yn meddu tarian a phicell o bres.
O'r ddau yma,—y Dafydd a'r Goliath,—y mae'r Cymro wedi dod. Y mae wedi etifeddu athrylith freuddwydiol y naill ac ynni y llall; cafodd delyn Dafydd a tharian Goliath. Y mae llawer o'r Iberiad eto yn ei natur, a llawer mwy nag sydd o'r Celt. Yr Iberiad roddodd iddo ei naws grefyddol, ei gariad at gerdd, a'i athrylith droeog wyllt. Ni synnwn i pe profid mai o anialwch diderfyn y dwyrain y daeth. Fel cragen yn cario sur môr gyda hi i bob man, y mae'r Cymro wedi cadw syniadau'r anialwch drwy ei holl grwydradau a'i hanes, - hiraeth am dragwyddoldeb, ymdeimlad parhaus o bresenoldeb Duw, gallu i greu drychfeddyliau, - gallu i ymhyfrydu mewn unigedd a distawrwydd, - y mae adlais o'r anialwch mawr pruddglwyfus yn ei gân, y mae ysbryd mawredd yr anialwch ym mhob meddwl o'i eiddo. Ac y mae presenoldeb y mynyddoedd yn cadw'r hen argraffiadau hyn yn fyw. Damcaniaeth efrydwyr penglog ac iaith ydyw dweud, mai o'r dwyrain ac o'r anialwch y daeth yr Iberiad; ond pan gofir mor gyfaddas i feddwl Cymro ydyw'r Hen Destament, nid ydyw'n anodd credu mai brodyr o'r anialwch ydyw'r Cymro a'r Hebrewr.
Os mai oddi wrth yr Iberiad y cafodd y Cymro ei allu i ddychmygu a breuddwydio a rhyfeddu, oddi wrth y Celt y cafodd hynny o allu sydd ganddo i drefnu ac i lywodraethu. Ei natur Iberaidd wna iddo weled byd arall, ei natur Geltaidd wna iddo geisio trin y byd hwn. Gŵr rhyfel oedd y Celt; sefydlodd ymherodraethau, a thaflodd ymherodraethau i lawr. Yr oedd yn perthyn yn agos i'r Rhufeiniwr, a'r un oedd ei athrylith, - athrylith at uno a threfnu a llywodraethu. Efe roddodd ei ysbryd i Hanes Cymru; ond yr Iberiad roddodd ei ysbryd i Lenyddiaeth Cymru.
Nid ydyw'r ymdrech rhwng yr Iberiad a'r Celt wedi darfod eto. Yng nghyfnod cryfder ei athrylith y mae Shakespeare yn gwneud i ysbrydion ei arwyr ymladd y frwydr drosodd drachefn. Ac yn hanes Cymru, dan bob ymdrech arall, y mae ysbryd yr Iberiad yn ymdrechu yn erbyn ysbryd y Celt. Y mae pob diwygiad crefyddol yn fuddugoliaeth i'r Iberiad; y mae darganfod gwaith glo neu waith aur newydd yn fuddugoliaeth i'r Celt. Mewn pob cân newydd y mae llais yr Iberiad; yn hanes hela a chware pêl droed clywir llais y Celt. Y cymorth cryfaf gafodd yr Iberiad ydyw'r Beibl; y cymorth cryfaf gafodd y Celt ydyw'r Sais.
Fel rheol, y cyntaf i wladychu mewn gwlad fydd byw hwyaf ynddi. Nid ydyw dyfodiaid yn medru ymgynefino cystal â natur y wlad, oherwydd hynny y maent yn gwanhau ac yn marw mewn amser. A than bopeth. y peth rhyfeddaf a phwysicaf yn hanes Cymru ydyw adfywiad yr Iberiad. Trwy'r diwygiadau crefyddol y mae wedi ennill Llenyddiaeth Cymru yn eiddo iddo; ac oherwydd estyn yr etholfraint, y mae'r gallu politicaidd yn ei law. Dan ei ddylanwad y mae Cymru'n dod yn fwy llenyddol ac yn fwy gwerinol bob dydd.
Er hyn oll, rhaid cofio mai nid Iberiad pur ydyw'r Cymro. Y mae gwaed y Celt ynddo hefyd. Oni bai am y gwaed hwn, ni fedrasai dim ei gadw rhag gorfreuddwydio; diwinyddiaeth ac athroniaeth a barddoniaeth fuasai ei unig fyfyrdod holl ddyddiau ei fywyd. Ond yn y gwaed Celtaidd sydd ynddo y mae awydd am lywodraethu, am gysuron, ac am feddiannau. Y mae'r gwaed oer hwn yn tymheru ei natur ddychmygol wyllt.
Paham y desgrifir y Cymro mor aml fel Celt, a phaham yr anghofir am ei waed Iberaidd? Y rheswm am hyn ydyw mai iaith Geltaidd ydyw'r Gymraeg. Collodd yr Iberiad ei iaith, a dysgodd iaith ei orchfygwr, ond nid hwyrach heb newid peth a'r yr iaith honno. GalI Cymru golli ei hiaith lawer gwaith eto, ond erys neilltuolion meddwl y bobl o hyd. A newidir pob iaith ddysgant hyd nes y bo'n alluog i osod allan neilltuolion meddwl y bobl hynny. Erys rhyw adlais o iaith goIl yr Iberiad, ac o iaith y Celt, ymhen oesoedd rif y gwlith, ymysg preswylwyr y mynyddoedd hyn. Nid mewn geiriau wyf yn feddwl, ond mewn arddull, - yn null ffurfio brawddeg, yn nhroadau meddwl.
Ai hanes yr Iberiad a'r Celt ydyw hanes Cymru? Na, tra'r oedd y rhain yn ymdrechu neu ymgyfuno yng Nghymru, yr oedd galluoedd eraill yn ymffurfio draw dros y môr, galluoedd fu'n gweithio'n nerthol wedi hynny yn ein hanes ni. O'r rhai hyn, y ddau bwysicaf oedd dinas yn codi mewn cors a haid o farbariaid yn ymwthio drwy goedwigoedd.
Mewn cors afiach a'r lan y Tiber, yng nghanol penrhyn red i Fôr y Canoldir, gwelwyd Rhufain yn cael ei hadeiladu, nid mewn un dydd. Yr oedd ei phreswylwyr yn perthyn o bell i'r Celtiaid oedd wedi crwydro tua'r gorllewin, ac yn debyg iddynt mewn meddwl ac iaith. Y ddinas hon, mewn amser, oedd i uno pob llwyth ac iaith mewn un ymherodraeth; wneud y byd yn ddinas, a dynion yn gyd-ddineswyr. Cawn weled llengoedd Rhufain yn gwneud ffyrdd gysylltai Gymru âr byd oddi allan. a'r amaethwr a'r gwladweinydd yn dod â'r hyd y ffyrdd hyn, a thraed yr hwn gyhoeddai efengyl tangnefedd ar y mynyddoedd.
Tra'r oedd yr Iberiad yn cyrchu tua Phrydain trwy ddeheubarth Ewrob, a'r Celt hyd lwybr cyfochrog trwy'r canolbarth, a thra'r oedd muriau Rhufain yn codi ar lwybr y cenhedloedd crwydr, yr oedd cenedl arall yn paratoi at ymsymud i'r un cyfeiriad hyd lwybr cyfochrog arall, yn y gogledd. Cenedl o bobl dalgryfion, o gorff anferth, oedd y genedl Deutonaidd hon. Yr oedd y Teuton yn gawr o ddyn, yn felynwallt, lygadlas, ac yn hagr iawn. Yr oedd ei ben yn fychan, ei dalcen yn isel, ei drwyn yn hir. a'i lygad yn enfawr. Yr oedd yn ddewr iawn, yn hoff o ryfel a hela, ond araf iawn oedd ei feddwl. Medrai orchfygu mewn brwydr, ond ni fedrai lywodraethu na chadw yr hyn a enillai. Gorchfygodd orllewin Ewrob, a daeth gwastadeddau Prydain a'u trigolion yn eiddo iddo. Erbyn heddyw nis ceir ef ond fel tir feddiannydd y gwahanol wledydd, - ni chymer fawr o ddiddordeb mewn celfyddyd na llenyddiaeth, deil i ymhyfrydu yn hen arferion helwriaethol ei hynafiaid barbaraidd. Y mae eto yn ein plith yng Nghymru; clywir ei helgorn,. a deil i redeg a'r ôl llwynogod a dyfrgwn, a'r ychydig anifeiliaid gwylltion eraill sydd eto heb eu difa yn ein hynys. Dinistrio Rhufain, lladd ac ymladd oedd gwaith ei gyndadau; lladd rhyw fwystfil ydyw ei hoff waith yntau hyd y dydd heddyw. Ni roddodd ddim i lenyddiaeth y byd, ond cryfhaodd ysbryd annibyniaeth a rhyddid, ac y mae rhywbeth iachusol yn ei ddylanwad barbaraidd. Ymysg pa genedl bynnag y mae ef wedi sefydlu, y mae'r genedl honno wedi derbyn y diwygiad Protestannaidd ac wedi taflu ymaith iau offeiriadol Rhufain. Efe drwythodd Gristionogaeth y gorllewin âi natur filwrol, - peth mor anghydnaws â natur yr Iberiad a'r Celt; efe drodd yr eglwys yn eglwys filwriaethol, - peth mor annhebyg i wir eglwys brenin tangnefedd. Yr Iberiad fun ddeiliad y byd, y Celt yn llywodraethwr, a'r Teuton yn wrthryfelwr.
Ymhen amser wedi i'r tri hyn ddod, daeth un arall, - y Norman o'r gogledd. Daeth yn ddinistrydd i ddechrau. Gadawodd greigiau a hafanau Norwy, a daeth i losgi eglwysi, ac i ddymchwelyd teyrnasoedd. Daeth drachefn fel llywodraethwr, wedi ei ddofi a'i ddysgu. Hyd y môr y daeth i Gymru yn ei ddyddiau barbaraidd; o wastadeddau Lloegr y daeth pan wedi ei wareiddio, i godi cestyll a mynachlogydd - mae eu hadfeilion eto ymysg rhyfeddodau ein gwlad.
Ac o'r holl genhedloedd hyn, ddilynodd eu gilydd i'r mynyddoedd, y gwnaed cenedl y Cymry.
NODYN II.
[golygu]Gellir darllen ychwaneg a'r testun y bennod hon yn y llyfrau a enwir yn y nodyn hwn, ymysg eraill. Yn llyfr diddorol ac eglur Isaac Taylor,—The Origin of the Aryans,—ceir crynhodeb o'r hyn a ddywedir yn y dyddiau hyn am y cenhedloedd crwydr. Ceir manylion gwerthfawr yn Village Communty Gomme hefyd.
Am hanes trigolion ein hynys ni'n dod yma, darllener llyfrau John Rhys, pen Coleg yr Iesu, yn enwedig ei Celtic Britain, ei Celtic Heathendom, a'i Arthur. Gweler ei amrywiol ddarlithiau, yn enwedig y Rhind Lectures.
Os mynnir darllen llyfrau syn taflu goleuni ar fywyd cyntefig cenhedloedd anwaraidd, darllener y traethawd a'r y teulu yn Custom and Myth Andrew Lang,—crynodeb o weithiau cyflawnach Morgan a Maclennan. Y mae erthygl debyg, ond yn dod i well canlyniad, ar Sylfeini Cymdeithas, yn yr ail lyfr o'r Llenor. Am y goleuni deifl hen gyfreithiau, darllener Ancient Law Syr Henry Maine. Y mae pob peth ysgrifenna Professor Tylor yn werth ei astudio hefyd; ac ennyn Grant Allen ein diddordeb bob amser.
Wedi cael peth cyfarwyddyd o lyfrau fel hyn, dechreua'r gwir efrydydd ddarllen yr hen gyfreithiau Cymreig yn fanwl; a dechreua graffu a'r traddodiadau, enwau lleoedd, a hen lysenwau, na feddent ddiddordeb iddo o'r blaen. Lloegr fod olion haenau o genhedloedd yn y cyfreithiau; medr weithio'n ôl oddi wrth wahaniaethau rhwng dosbarthiadau mewn cymdeithas at goncwest ar ôl concwest nad oes ond eu heffeithiau i ddangos eu bod.