Neidio i'r cynnwys

Hanes Cymru O M Edwards Cyf I/Cymru

Oddi ar Wicidestun
Amseroedd Hanes Cymru O M Edwards Cyf I
Cymru
gan Owen Morgan Edwards

Cymru
Y Cenhedloedd Crwydr

ERYRI

HANES CYMRU Cyfrol I - O. M. EDWARDS
PENNOD I - CYMRU

"Ei dir ef fydd wedi ei fendigo gan yr Arglwydd, a hyfrydwch y nefoedd, a gwlith, ac a dyfnder yn gorwedd isod; Hefyd a hyfrydwch cynnyrch yr haul, ac a hyfrydwch addfed-ffrwyth y lleuadau; Ac a hyfrydwch pen mynyddoedd y dwyrain, ac a hyfrydwch bryniau tragwyddoldeb; Ac a hyfryd wch y ddaear ac a'i chyflawnder; ac ag ewyllys da preswylydd y berth."

O'r môr a'r gwastadeddau sy'n eu hamgylchu, gellir gweled mil mynyddoedd Cymru'n ymgodi tua'r nef. I estron, y mae golwg ryfedd a gwyllt a dieithr arnynt: i Gymro crwydredig y mae pob peth ond hwy'n ddieithr - ar wastadeddau pellaf y ddaear Lloegr hwy, mewn dychymyg a hiraeth, yn ei groesawu'n ôl. Os mynnir deall hanes Cymru, ac os mynnir adnabod enaid y Cymro, rhaid dechrau gyda'r mynyddoedd. Hwy fedr esbonio datblygiad hanes Cymru, - dangos paham y mae'n wlad ar wahân, pam mae'n rhanedig, ac eto'n un. Hwy fedr esbonio cymeriad amlochrog y Cymro,- eu haruthredd gwyllt hwy a thawelwch eu cadernid hwy sydd wedi ymddelwi yn ei enaid, enaid mor lawn o rinweddau ac mor lawn o ddiffygion.

Wrth edrych ar fap o Brydain, gwelwn ei bod yn ymrannu'n ddwyrain ac yn orllewin. Ar hyd ei thraethell orllewinol ymestyn rhes hir o fynyddoedd uchel, gan edrych, dros fryniau'r Iwerddon, tua'r môr mawr agored, a'r dyfodol. Ond gwastadedd ydyw'r rhan ddwyreiniol, yn edrych yn ôl, dros gulfor, tua'r hen fyd. Mewn rhyw dri lle neu bedwar, y mae toriad yn y rhes o fynyddoedd, ac ymestyn y gwastadedd, trwy'r agoriadau hyn, i fin môr y gorllewin. Rhennir y mynydd-dir, felly, yn wahanol wledydd, - Cernyw, Cymru, Ystrad Clwyd, a'r Alban, - gyda llinell droeog glan y môr yn derfyn ar ochr y gorllewin, a chyda gwastadeddau [w:Lloegr|Lloegr]] ar ochr y dwyrain.

Ymestyn Cymru allan i'r môr, a golchir godrau ei mynyddoedd ganddo ar dri thu, - y gogledd, y gorllewin, a'r de. I'r dwyrain gorwedd gwastadedd Lloegr, yr hwn dery fôr y gorllewin wrth enau'r Ddyfrdwy, gan wahanu Cymru oddi wrth Ystrad Clwyd, ac wrth enau'r Hafren, gan wahanu Cymru oddi wrth Gernyw. Gwelir ar unwaith fod natur wedi gwahanu Cymru oddi wrth rannau eraill Prydain, a fod iddi ei hanes priodol ei hun. Ymgyfyd ei mynyddoedd mewn annibyniaeth naturiol uwchlaw'r gwastadedd, yn bod, bydd gwahaniaeth hanfodol rhwng Cymry'r bryniau a Saeson y gwastadeddau; er y gallant ymuno at lawer amcan, at lawer amcan arall rhaid iddynt fod byth ar wahân. Y mae gwir yng ngeiriau'r bardd ddarluniodd y mynyddoedd,

"Dyma gastell gododd Duw,
Ar eira ar ei ben,
I anibyniaeth Cymru fyw,
Ar frig Eryri wen."

Os ydyw ei mynyddoedd yn gwahanu Cymru oddi wrth bobman arall, y maent yn ei rhannu hefyd - heblaw ysbryd annibyniaeth cawn ynddi ysbryd ymbleidio ac ymsectu. Pe buasai natur wedi gwastadau pennau'r mynyddoedd a llenwi'r dyffrynnoedd dyfnion sy'n eu rhannu, gan wneud y wlad yn wastad yn ogystal ag yn uchel, buasai Cymru'n unol yn ogystal ag yn annibynnol. Ond ymsaetha'r mynyddoedd i fyny, mewn afreoleidd-dra rhamantus, a rhennir y wlad gan afonydd sy'n gwneud eu dyffrynnoedd yn ddyfnach bob dydd.

Trwy ganol Cymru rhed trum ardderchog o fynyddoedd o ogledd i dde, o fôr i fôr. Y mynyddoedd hyn a'u llethrau ydyw Cymru. Nid oes ond ychydig o'r wlad, - rhannau o Fôn, Dyffryn Clwyd, Dyffryn Maelor, a thraeth y de, yn llai na dau gant o droedfeddi o uchder,- rhyw gylch bychan o amgylch y wlad. Y tu mewn i'r cylch hwn ceir cylch mwy, o dir dan bum cant o droedfeddi. Ond ymgyfyd canolbarth y wlad, y rhan fwyaf o lawer o honni, i uchder sydd rhwng pum cant a dwy fil o droedfeddi ac ymsaetha rhai pigau yn uwch na hyn, cyrhaedda mynyddoedd Eryri'n uwch na thair mil a hanner o droedfeddi. Cyrhaedda'r mynyddoedd yn uwch na llinell y ddwy fil mewn pedwar lle - a gellir edrych ar bedwar mynydd uchel fel pedwar penteulu, gyda thylwyth lluosog o'u hamgylch. Y cewri mud hyn, - rhyfelwyr o lech a charreg galch, gyda chrib o wenithfaen ar eu helmau, - wnaeth hanes Cymru y peth ydyw, ac nid oes frenin eto wedi medru dileu eu dylanwad ar hanes a chymeriad eu preswylwyr.

Yn y gogledd ymgyfyd yr Wyddfa a theulu Eryri. Uchel ac ysgythrog ydyw y rhain, rhes gribog yn ymestyn o ddyffryn Conwy i eithaf penrhyn Llŷn. Wrth eu traed gorwedd Môn yn dawel yn y môr. Cymdogaeth agosaf Eryri ydyw mynyddoedd Berwyn, teulu lluosocach a manach, a'r Aran yn ymgodi mewn prydferthwch o'u canol. Yr un defnydd sydd i'r rhain, - llech a chrib o wenithfaen, - ond gyda charreg galch yn ymyl wen i odrau eu gwisg. Nid ydynt yn sefyll mor agos at eu gilydd a mynyddoedd Eryri, ac nid ydyw'r wisg sydd dan eu hamwisg wen yn unlliw, - y mae mynyddoedd llech Meirion yn laslwyd, bryniau calch Dinbych yn wynion, ac is-fryniau glo Fflint yn dduon. Mynyddoedd Eryri a llethrau gorllewinol y Berwyn ydyw gwlad Gwynedd; llethrau dwyreiniol y Berwyn ydyw gogledd gwlad Powys.


Yn nes i'r de gorwedd Plunlumon a'i blant, mewn hanner cylch yn edrych tua'r môr, gyda Cheredigion yn ei fynwes, a Phowys wrth ei gefn. Wrth ei droed y mae gwlad Dyfed yn ymestyn i'r môr, gyda phigau gwenithfaen yn ymgodi o fryniau ei gogledd, a chestyll yn gwylio dyffrynnoedd hafaidd tlysion y de.


Os edrychir i'r de-ddwyrain o drumau Plunlumon gwelir y Mynydd Du a'i dylwythau, - yn llawn o gyfoeth dihysbydd, - a gwastadedd bras rhwng eu godrau a môr y de. O gymoedd eu dwyrain rhed yr Wysg a'r Wy, - yn loyw fel arian cyn gadael y mynyddoedd, - i ymdroelli'n ddioglyd trwy ddaear goch Gwent tua genau'r Hafren a'r môr. Rhwng Gwent a Dyfed y mae bro a bryniau Morgannwg gwlad y cyfoeth a'r lluoedd; gwlad "yn llwynaidd gan berllanau, a gwlad yr haearn a'r glo: gwlad y maendai lle mae mwynder," a gwlad pebyll Cedar.

Fel eu gwlad a glannau eu moroedd, felly hefyd y mae'r Cymry. Gwyllt ydyw'r wlad, amrywiol, a rhyfedd; troellog ydyw ei ffyrdd, ac ni wel neb a'u tramwyo fawr ymlaen. Y mae Lloegr yn wastad, ei ffyrdd yn union, Lloegr y teithiwr o ben y daith faint sydd ganddo i'w gerdded, a faint fydd ei ludded. Felly am drigolion y wlad, - gŵr rheolaidd a phwyllog ydyw'r Sais, gŵr y gellir dibynnu arno, gŵr wel lwybr dyletswydd ei fywyd yn glir o'i flaen, gŵr heb bryder nac ansicrwydd meddwl nac ofn nac anwadalwch. Ond am y Cymro, y mae ei feddwl ef yn rhamantus ac athrylithgar, a gobaith yn gryfach na ffydd; ni wel ymhell ymlaen, y mae ei holl fryd ar y llecyn y digwydd fod ynddo: y mae ei lwybr heibio cornel y mynydd, ni wel beth sydd o'i flaen, nid yw dyfalbarhad dyn y llwybrau sythion yn perthyn iddo, ac nid oes sicrwydd beth a wna pan fo'r mynydd rhyngoch ag ef. Plentyn y mynyddoedd ydyw,-yn addaw i Dduw ar lawer awr o frwdfrydedd fwy nag y medrai bywyd o ddyfalbarhad ei gyflawni. Cryfder dychymyg a dyhead am fywyd gwell, a phruddglwyf wrth weled mor anodd ydyw sylweddoli pan fo'r brwdfrydedd wedi oeri, - dyna brif nodweddion y Cymro. Rhoddwyd swm ei gymeriad, hawster dychmygu ac anhawster cyflawni, mewn geiriau sydd erbyn hyn yn ddihareb,-

Hawdd yw dwedyd, Dacw'r Wyddfa;
Nid eir drosti ond yn ara,

Yr ymdrech gyntaf yn hanes Cymru yw'r ymdrech i gadw yr holl fynyddoedd dan eu teyrn. Dyna oedd amcan llawer un galluog o Arthur ddychymyg hyd Gadwallon hanes. Ond y mae toriad yn y mynyddoedd, ymestyn Dyffryn Maelor rhwng y Berwyn a mynyddoedd Teyrnllwg ac Ystrad Clwyd, ac nid oedd Caer yn ddigon cadarn i rwystro'r gelyn dorri hen Gymru'n ddwy.

Wedi hynny bu'r mynyddoedd yn ymladd gyda'r tywysogion Cymreig yn erbyn brenhinoedd Lloegr. Ac er i Gymru ddod yn rhan o deyrnas brenhinoedd Lloegr, cadwodd y mynyddoedd hi'n wlad ar wahân. Y mae'r mynyddoedd yn sicrhau y bydd y Cymry'n bobl neilltuol, bydd yr Wyddfa yn y môr cyn y collant nodweddion eu hanes a'u meddwl.

Rhoddodd y mynyddoedd i Gymru undeb ac annibyniaeth; undeb trwy wneud gwahaniaeth rhyngddi a Lloegr, annibyniaeth trwy ei rhannu'n gantrefi ac yn gymydau. A dyna ydyw hanes hapus gwlad fynyddig fo dan wenau Rhagluniaeth, - undeb ac annibyniaeth yn graddol gryfhau eu gilydd, cyfraith a rhyddid yn dod yr un peth.

Nodyn I

[golygu]

Rhennid tir Cymru yn dywysogaethau, cantrefi, cymydau. Yr oedd terfynau'r tywysogaethau'n newid o hyd. Y pedair gadarnaf oedd Gwynedd, Powys, Deheubarth, a Morgannwg, - yn ateb i ryw fesur i bedair esgobaeth y wlad.

GWYNEDD. Yr oedd Môn yn dair cantref, dau gwmwd ymhob un. Ar ei chyfer yr oedd cantrefi Arllechwedd ac Arfon. Ar lethrau deheuol Eryri yr oedd cantrefi Llŷn, Eifionydd, ac Ardudwy. O amgylch Gwynedd yr oedd cylch o gantrefi fyddai'n aml yn rhan o honni, - Rhos a Rhufoniog, sef ehangder Mynydd Hiraethog, rhwng Conwy a Chlwyd; Tegeingl, y gantref fryniog rhwng Clwyd a Dyfrdwy; Dyffryn Clwyd; Edeyrnion a Phenllyn, cantrefi mynyddig dyffryn uchaf y Ddyfrdwy; Meirionnydd, rhwng Maw a Dyfi. Weithiau byddai Mawddwy a Chyfeiliog, holl lethrau dyffryn Dyfi, dan dywysog Gwynedd hefyd.

POWYS, gwlad y Berwyn, cantrefi a chymydau Dyfrdwy a Hafren. Dyffrynnoedd y Ddyfrdwy sy'n agor i Loegr yw Powys Fadog, - Ial, Ystrad Alun, Maelor, y Waen, Croesoswallt, Dyffryn Ceiriog. Dyffrynnoedd Hafren yw Powys Wenwynwyn,—Llannerch Hudol, Ystrad Marchell, Mechain, Caereinion, Cedewain, Arwystli.

Rhwng y rhain a'r De, y mae cymydau Ceredigion o du'r môr i Blunlumon; a Maelenydd, Elfael, Buallt, a Brycheiniog yr ochr arall,—cymoedd Gwy a'r Wysg. Byddai'r tywysogaethau bychain hyn yn newid dwylaw'n aml, weithiau dan Wynedd, dro arall dan Bowys, yna dan arglwyddi'r goror, a phob amser yn llawn ysbryd annibyniaeth.

MORGANNWG a Gwent,—dau gwmwd ar hugain hyfryd,—sydd ar lethrau a bro y De o Wy i Nedd. I'r gorllewin y mae tair cantref mawrion Ystrad Tywi, rhan arhosol y DEHEUBARTH o Nedd i Deifi. Rhwng hon a'r môr y mae ugain cwmwd Dyfed, bryniau a gwastadeddau y de-orllewin.