Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Cymru America.djvu/21

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

neallus hwy a dywyllwyd; pan dybient eu bod yn ddoethion, hwy a aethant yn ffyliaid." Rhuf. 1. 21, 22.

Yn mhlith y mil-fyrdd fydoedd a osododd Duw, i gylchdroi ar en tragywyddol echelydd, yn yr eangder dirfawr, efe a wnaeth ein daiar delaid ni. Nid ᎩᎳ ond un fechan, mewn cymhariaeth i rai o'r heuliau a'r planedau mawrion; ond y mae, er hyny, yn ddigon mawr a goludog i fod yn breswylfa ddedwydd i filiynau o fodau rhesymol, ac afresymol hefyd. Ni chreodd hi yn ofer; i'w phreswylio y lluniodd hi. Esa. 45. 18. Gosododd y ddeuddyn cyntaf yn mharadwys Eden; a bwriadodd iddynt luosogi a llenwi y ddaiar. Gen. 1. 28. Credwyf hefyd fod gwaith meibion Noah, ar ol y diluw, yn ceisio adeiladu "Twr Babel," yn amcanu yn uniongyrch i atal cyflawniad rhag-gynllun Duw i boblogi y byd. Ond disgynodd Duw, a chymysgodd eu hiaith hwy, dyrysodd eu hamcanion, ac "oddiyno y gwasgarodd yr Arglwydd hwynt ar wyneb yr holl ddaiar." Gen. xi. 1–9. Pwy a all atal ei law Ef? Efe sy'n cyfodi ac yn darostwng breninoedd; cyfyd hwynt i ateb ei ddybenion mawrion a daionus ei hunan; a phan y pallant wneyd hyny, ac y troant yn ormeswyr hunanol a llygredig, er drygu eu deiliaid, Efe a'u darostwng i'r llwch. Y mae ei oruchel-lywodraeth Ef ar holl symudiadau dynion; ac hyd yn nod derfynau en preswylfod wedi eu pennodi ganddo, fel y ceisient yr Arglwydd.

CYFANDIR MAWR AMERICA.

CYFANDIR mawr yw America, yn rhedeg o foroedd rhewllyd y gogledd, dros linell y cyhydedd, hyd Patagonia a Cape Horn yn y de, am oddeutu naw mil o filldirau o hyd; ac o lanau Môr y Werydd, dros y Myn-