yddau Creigiog hyd lanau y Môr Tawelog, am oddeutu tair mil o filldirau o led. Cynnwysa lawer iawn o filiynau o erwau o diroedd gwerthfawr, o goedwigoedd cangfaith, o Indrawn a gwair toreithiog, o wahanol lysiau a ffrwythau; o fynyddau a bryniau yn orlawn o fwnau; o lynoedd mawrion a grisialaidd, ac o afonydd dyfnion a mordwyol; gyda llawer iawn o ynysoedd mawrion a mân. Rhenir ef yn ddwy ran, sef Gogledd a Deheudir America. Yn NGOGLEDD America y mae y Canadas, Labrador, Newfoundland, New Brunswick, Nova Scotia, &c., oll dan lywodraeth Lloegr; yma hefyd y mae yr Unol Dalaethau, a Mexico, &c. Ond yn NEHEUDIR America y mae gwledydd a mân lywodraethau Venezuela, Guiana, Colombia, Equador, Peru, Brazil, Bolivia, Paraquay, Uruguay, Chili, yr Argentine, a Patagonia. Poblogwyd ef gyntaf gan wahanol lwythau o Indiaid melyngoch, anwaraidd, a chrwydredig, y rhai oeddynt dra anwybodus, ac ofergoelus; ond yn awr poblogir rhanau ehelaeth o hono gan wahanol genhedloedd gwareiddiedig teyrnasoedd Ewrop, sef y Spaeniaid, y Portugaliaid, yr Italiaid, y Ffrancod, yr Ellmyniaid, y Swediaid, y Saeson, y Scotiaid, y Gwyddelod, a'r Cymry. Ond y mae digon o le ynddo eto i gynnwys miliynau ychwaneg o boblogaeth.
YR UNOL DALAETHAU.
Yn amser y Chwildroad, Gor. 4, 1776, pan gyhoeddodd y Trefedigaethwyr eu Hannibyniaeth ar Lywodraeth Prydain, nid oedd ond un-deg-tair o Dalaethau yn ffurfio yr Undeb hwnw, sef, Massachusetts, New Hampshire, Rhode Island, Delaware, Connecticut, Maryland, New York, Virginia, New Jersey, North Carolina, Pennsylvania, South Carolina, a Georgia; ac nid