Hefyd, yma y bu Mr. Williams, Lledrod, yn llafurio am y rhan olaf o'i oes. Yr oedd yn llanw lle uchel yn meddyliau ei gyfeillion a phawb; a chwynai y digrefydd yn gystal a'r crefyddol oherwydd ei golli pan fu farw Enwau y cynghorwyr oeddynt William Richard Llwyd, John Williams, neu Shon 'Sgubor, John Jones, Thomas Jenkins, Evan Evansa, neu Evan Tanner, &c. Yr oedd y rhan fwyaf o'r hen gynghorwyr hyn yn danllyd iawn wrth bregethu, a gallesid ysgrifenu fel arwyddair ar eu talcenau, "Mynydd Sinai yn Arabia," oblegid pregethu y ddeddf y byddent y rhan amlaf.—Dechreuodd John Williams bregethu yn y dull canlynol, Aeth gyda W. R. Llwyd, os ydym yn cofio yn iawn, ar daith drwy un o siroedd y deau i ddechreu tipyn o'r cwrdd, fel y dywedir; ond oherwydd rhyw amgylchiad, gorfu ar W. R. Llwyd ddychwelyd ar hanner y daith, a dywedodd Shon yr âi ef i'w gorphen, i gael dyweyd nad oedd Mr. Llwyd yn dyfod. Y canlyniad fu, iddo esgyn grisiau'r pwlpud, a phregethu yn danllyd y gweddill o'r cyhoeddiad. Ac erbyn dychwelyd adref, nid Shon mohono mwyach, ond Mr. J. Williams.
Gofynwyd iddo unwaith pa fodd y pregethai ar y pwnc o gyfiawnhad. "Wel," meddai yntau, "fe ddywedaf wrthynt," sef wrth y bobl, "os na chânt eu cyfiawnhau, y cant eu damnio,—a shwt arall y pregethir arno?" Ar ddiwedd yr oedfa, pwy bynag fyddai'n pregethu, os byddai John Williams o hyd, efe roddai y gair hymn allan ar ddiwedd y bregeth. Un tro rhoddai y canlynol,
"Gadawn y byd ar ol,
Y byd y cawsom was," &c.
Ond wrth roi y darn olaf allan yr ailwaith, annghofiodd y