gair, a'r pryd hwn aeth Mr. John Williams yn Shon y dyddiau gynt; ac yn hytrach na gadael y gair hymn heb ei orphen, penderfynodd roddi dernyn wrtho, cymhwys neu beidio, a dywedodd,
"A thyna oedd ei amcan ef,
Ein dwyn o'r byd i'w deyrnas nef."
Prif hynodrwydd John Williams oedd, ei fod yn weddiwr tra hynod. Unwaith, dywedai Mr. Williams, Lledrod, wrtho, am fyned i weddi. Dywedodd yntau, "Diolch yn fawr i chwi, Mr. Williams bach, at waith da yr ydych yn fy nanfon bob amser," —a chyda'r gair yr oedd yn y nefoedd, a'r nefoedd y fynyd nesaf yn gwlawio ar y dorf.
Yr oedd Evan Evans yn bregethwr tanllyd iawn hefyd. Pan y byddai Evan yn yr hwyl, byddai yn dra thueddol o godi ei law at ei dalcen, ac hefyd yn dra thueddol´o dywallt brawddegau Saesoneg yn ddiarbed ar ei wrandawyr. Nid oes genym reswm dros hyny, ond mai felly yr oedd. Un o'r rhai a ddefnyddiai yn aml oedd y canlynol,—"Compel them to come in." Dro arall, pan oedd un o'r hen gynghorwyr yn pregethu, ac yn gwneyd sylw mewn rhyw ymadrodd ar y pysgodyn a lyncodd Jonah, dywedai, "yr oedd ei ddannedd fel y mysedd i." "Na," meddai rhywun gerllaw, “pe dywedasai eu bod yn debyg i gamau cwpwl, buasai yn nes i'w le o lawer." Y mae coffadwriaeth yr hen gynghorwyr hyn yn anwyl iawn genym; er fod eu cyrff yn y ddaear, heddwch i'w llwch, y maent o ran eu heneidiau yn y nefoedd oll, mae'n ddiamheu genym.
Cafwyd yma hefyd lawer o ddiwygiadau crefyddol, o ba rai dygwyddodd saith yn amser y Parch. Daniel Rowlands. Y cyntaf a dorodd allan yn Eglwys Llangeitho, pan oedd