Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/100

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddol ydw i." Ac aeth y gair, "Cymedrol â'i dîn yn y dwr " yn ddihareb am flynyddoedd drwy ddarn gwlad. Ni wyddis ddim pa ddeunydd a wnelai o stori arall, pan welodd ddyn. meddw yn methu ymlwybran yn ei flaen, ac y cyfarchodd yntau ef,—"Mae'r ffordd yn hir iawn, onid ydi hi?" ac atebodd y meddw,—"'Dydwi'n cwyno dim am i hyd hi; i lled hi sy'n mlino i'n ofnadwy." E fyddai yntau ond odid ym mlynyddoedd cyntaf dirwest yn ymollwng gormod â'i ffraethineb. Wrth siarad unwaith oddiar risiau porth y Castell yng Nghaernarvon, gan ymosod ar dafarnau'r wlad, fe alwai sylw at gerflun y ci o flaen gwesty'r Sportsman yn yr heol gyferbyn âg ef yn y dull yma,—"Dacw'r ci yn troi i ben ol ar y Sportsman!" Nid annhebyg mai'r tro yma yr oedd gorymdaith ddirwest yn myned i lawr Stryd y Sportsman a'r Dr. Arthur Jones ynghydag eraill ar y blaen. Yr oedd Bryan bach, y Wesleyad, ar y pryd yn sefyll yn nrws ei siop, yn dorsyth, a'i ên i fyny, a'i lygaid yn troi yn ei ben ac yn ymloewi, fel petae'r peth gwirionaf allasai fod yn digwydd yno ger ei ŵydd. Wrth fyned heibio iddo dyna'r Dr. Arthur Jones yn galw allan,—"Pa bryd yr ydych am ymuno â ni, Mr. Bryan?" Ebe Bryan yn ol, mor grwn a phêl,—"Ar y dydd cyntaf o Ebrill!" gan gadw'i hun yn yr un agwedd dorsyth ag o'r blaen, a'i lygaid yn troi yn ei ben ac yn ymloewi. Fe adroddwyd hyn i Mr. Samuel Maurice Jones gan rywun a oedd yno yn gwylio ac yn gwrando ar y pryd. Parai ambell sylw o'r eiddo, ac ambell hanesyn gor-ddigrifol, feirniadu arno yntau. Ond medrai ef amddiffyn ei hun yn eithaf deheuig yn wyneb y cyhuddiad. Fe arferai'r Dr. Lewis Edwards ar dro roi enghraifft ohono yn hynny, fel y clywodd yr ysgrifennydd ef unwaith. Ryw dro yr oedd rhyw wr yn cyfarch cyfarfod dirwest o flaen y Dr. Arthur Jones, ac yn amlwg yn anelu at ddull gorddigrif y gwr a oedd i godi ar ei ol, gan ddal ar y pwys o fod yn "sobor " ynglyn â'r pwnc hwnnw cystal ag ynglyn â phethau eraill yn y cysegr. Fe gurai'r gwr ar yr hoel honno yn o fynych. Baich ei araeth ef ei hun oedd egluro effaith y ddiod ar yr afu, yr elwlen, y coluddion wyth troedfedd ar hugain o hyd, a rhannau eraill o gorff dyn. Wedi i'r Dr. godi ar ei draed fe gyfeiriodd at yr araeth "sobor" yr oeddynt wedi gwrando arni, ac yna fe nododd y naill beth ar ol y llall yn yr araeth gyda'r ymadrodd, "Dyna beth sobor!" "Mae na 'lwlen