Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/99

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Efengyl!" E fu Owen Thomas yn cyfarch cymanfaoedd dirwest hyd 1840 o leiaf. Fe ddaeth John Thomas, hefyd, brawd Owen, a rhyw wyth mlynedd yn iau nag ef, yn fuan i gyhoeddusrwydd ynglyn â dirwest; a daeth yn un o bleidwyr mwyaf aiddgar ac effeithiol yr achos yng Nghymru. Eithr fe symudodd ef o Fangor yn fuan.

Fel areithiwr ar ddirwest e fu gan y Dr. Arthur Jones fwy o ddylanwad ar feddwl gwlad na neb o'r gwŷr grymus a fu yn y ddinas, neu yn unlle arall yng Nghymru, debygir. Y prif achos o hynny nid hwyrach oedd ei arabedd nodedig, a hynny mewn cysylltiad â dylanwad ei gymeriad a'i ddawn fel siaradwr. Fe roe banllawr dirwest, yn fwy na'r pulpud, gyfle iddo i ymollwng i'r eithaf gyda'i ddawn arabeddus honno, ac fe aeth y sôn am ei ddywediadau a'i ddisgrifiadau fel tân gwyllt drwy'r wlad. Wedi eu paratoi felly, e fyddai'r olwg arno yn unig, pan godai o flaen cynhulliad o bobl, yn cyffroi llawenydd a chwerthin; ac yna, yn y man, ynghanol ei ddisgrifiadau digrif, e fyddai'r bobl yn ymnyddu dan gyffroad y nwyd chwerthingar, gan ymollwng mewn ymdoriadau o lawenydd a difyrrwch. Yr hyn a fwyhae y dylanwad hwnnw o'i eiddo ydoedd ei allu, nid yn unig i reoli ei hunan ynghanol trybestod y cyfarfod, ond ymhellach na hynny i roi ei hunan mewn agwedd megis un na wyddai am beth ar arffed daear y gwneid y fath helynt ystormllyd gan y cyfarfod. Ar ol Christmas Evans prin y bu ei hafal yng Nghymru yn y ffordd yma o ddigrifwch llesmeiriol. Gallai gyfleu gwawdiaeth goeglyd drwy gyfrwng hanesyn digrif. Mae sgrifennydd yn y Traethodydd (1881, t. 438) yn rhoi dwy neu dair enghraifft o hynny. Er mwyn gwawdio'r sawl, er yn yfwyr trwm, a geisiai amddiffyn eu hunain dan yr enw cymedrolwyr, fe arferai adrodd am wraig wedi yfed yn o drwm ac a orweddai ar Draeth y Lafan er aros y cwch i groesi. Erbyn cyrraedd o'r cwch yr oedd hi wedi myned i gysgu, a'r môr yn dechre ymdaflu hyd ati, a phan deimlai hi ef yn golchi ei gwefus, ebe hi, gan droi ei phen draw, "Fynnai ddim chwaneg." Ar hynny, dyna donn ysgafn arall yn ymdaflu i'r safn agored. Poerodd hithau'r dwfr allan gan nadu, "Ond ddwedis i na fynnwn ni ddim chwaneg?" Wrth ddod o'i gyhoeddiad ryw dro fe welai ddyn yn eistedd yn nwfr y ffos. Ebe yntau wrth hwnnw,—"'dwyt ti ddim yn ditotal mae'n debyg?" "Nac ydw" oedd yr ateb, "cymed-