Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/98

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yfed cwrw o lestri tê!" Nid ymaelododd â'r gymdeithas ddirwest, er yn llawenychu yn ei llwyddiant. (Diwyg. Dir., t. ix.)

Yn ddiweddarach na diwedd Mehefin, 1836, y sefydlwyd Cymdeithas Ddirwest ym Mangor. Owen Thomas a fu â'r Ilaw bennaf yn hynny. Ar un tro yr ae efe i Gaerhun i gynnal cyfarfod gyda'r Dr. Arthur Jones, fe adroddodd Owen Thomas. wrtho ef ar y ffordd hanesyn difyr a oedd newydd ei glywed ar y pwnc. Pan ddaeth tro y Dr. i siarad dyma'r hanesyn allan â hwyl anarferol. Fe welodd y Dr. y gallai barhau i wneud defnydd o'r hanesyn hwnnw, ac wrth ddychwelyd o'r cyfarfod eb efe wrth Owen Thomas,—"'Rwan, peidiwch i byth ag adrodd yr hanesyn yna, neu mi ddwedan mai wedi i ddwyn o oddiarna'i y byddwchi." Mam Owen Thomas oedd y ddirwestwraig gyntaf ym Mangor. Hi fu'n dilyn y cyfarfodydd yn gyson am flynyddoedd. Bu farw ddechre haf, 1873, yn 85 oed. (Temlydd Cymreig, 1873, Awst, t. 2. Cofiant Owen Thomas, t. II, 44.)

Fe sefydlwyd y gymdeithas yn y Felinheli, Medi 20, 1836, a chynhaliwyd y cyfarfod cyntaf yn Elim, sef capel y Wesleyaid.

Fe gychwynnwyd y Clwb Du yn y Graig, Rhagfyr 8, 1849, yr hyn sy'n awgrym am adeg cychwyn mewn mannau eraill. Llwyddodd Temlyddiaeth Dda yn anarferol ym Mangor. Erbyn 1873 yr oedd yma saith gyfrinfa ac agos i fil o aelodau. Hwn oedd y cynnydd mwyaf yng Nghymru. Dychwelwyd lliaws mawr o feddwon ar y pryd. Er hynny, o fewn rhyw dair blynedd neu lai o'r cychwyn yr oedd y gwrthgiliadau yn eu plith yn dorcalonus yn eu nifer. Yr oedd dau gant o aelodau yn Llanfairfechan ym Mawrth, 1873. (Temlydd Cymreig II.)

Bu Owen Thomas, yn 24 oed, ar daith ddirwest yn y Deheudir yn parhau am ddeng wythnos. Yr oedd ei ddoniau areithyddol wedi llawn ddatblygu erbyn hynny, debygir, ac yr oedd effeithiau anarferol yn fynych i'w gyfarchiadau. Mewn un man yr oedd ef i siarad ar ddirwest, a John Evans Llwynffortun i bregethu. Mynnai'r hen bregethwr fyned o'i flaen, yr hyn sy'n rhyw arwydd o'r disgwyliadau uchel wrth y llefarwr ieuanc. Nid oedd yntau'n foddlon i hynny, ac ebe John Evans," My dear sir, nid ydych am roi dirwest o flaen yr