Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/107

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr oedd ganddo bynciau hefyd, a difrifwch amcan dros ben hynny. Fe'i perchid ac fe'i gwerthfawrogid ymhob cylch.

Ar ol sgrifennu'r uchod ar ddirwest yn y cylch hwn, fe'i dangoswyd i'r un gwr ag a sgrifennodd y sylwadau ar yr orgraff, ynghyda chais am ei atgofion am rywrai na chyffyrddwyd â hwy eisoes, â'r hyn y cydsyniodd yntau. Fe arferir peth rhyddid i gwtogi a chrynhoi: "Mor bell ag yr wyf yn adnabod y cylch, rhyw ddau neu dri amlwg a welaf wedi eu gadael allan; a'r rheiny, ar ryw olwg o leiaf, y rhai mwyaf selog i gyd. Y mwyaf cyhoeddus o'r tri a nodaf oedd (1) Sion Robyn. Mi fyddwn pan yn hogyn yn rhyfeddu at ei ddawn, a thybiwn ei fod heb ei gymar yn y wlad braidd. Rhyw orllif oedd Sion Robyn yn ysgubo'r cwbl o'i flaen, ac yma ac acw yn wyneb rhwystrau, y diferion dwr a'r ewyn yn cael eu lluchio i'r awyr ac yn tywynnu yn yr heulwen. Pa faint bynnag yr ymgyfyngai dawn Sion Robyn yn fy ngolwg mewn blynyddoedd diweddarach, mi fynnwn yma gofnodi fy niolchgarwch iddo am ddifyrru fy maboed a'm hieuenctid cynnar, a deffro rhai dyheadau ynof o blaid y pur a'r da. Diau ddarfod iddo gyfyngu fy ngorwel dros ystod rhai blynyddoedd, ond fe estynnwyd cortynnau fy mhabell yn llawn digon buan feallai. Hyna ar hyna. Dyma fi'n ol ynte yng nghyfarfod hanner awr wedi pedwar y Sul neu ynte noswaith y Gyfrinfa (Temlwyr Da). Pan gludid Sion Robyn yn deg oddiar ei draed gan gyffroad ei deimladau, difesur oedd ymdoriadau'r hyawdledd, i'w alw felly; a gwae'r truan a safai o'i flaen i'w wrthwynebu, neu, o leiaf, felly y teimlem ni ei edmygwyr ieuainc. Mae yn wir i mi yn arafdeg ddechre ameu a fyddai efe yn sicr ohono'i hun bob amser. Beth er hynny? munud yr ymdoriad ysgubol o ddawn oedd yn ddifyr. Lle mae'r siaradwr bellach a'm cludai gydag ef yn y dull hwnnw, wŷs?

"Cof gennyf am Sion Robyn yn dal ar rym chwant, ac fel y buasai'r hen yfwyr yn hoffi bod eu corn-gwddf cyn hired ag un Ophiucws y cawr, ag yr oedd ei hyd fel eiddo comed ar draws y wybr ogleddol, er mwyn iddynt brofi'r mwynhad o'r rwm-pwnsh yn treiglo i lawr hyd-ddo yn ara-ara-deg. Be fydd cosp y rhain yn y Gehenna? Duw y rwm-pwnsh yn i gynnyg o iddyn nhw, ac, fel y bônt yn ymystyn am dano, yn ei dynnu o