Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/110

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rannu, fe ddywedai, mewn cyfeiriadau cyferbyniol i'w gilydd tua'r nef ac uffern, fel y salamander, wedi y torrer yn ddau, a red ymlaen â'r pen blaen ac yn ol â'r pen ôl. Canys ni adawai Sion Robyn mo neb mewn amheuaeth ynghylch ei feddwl pan draethai ef, yn enwedig ar bwnc dirwest. Fe geid llun gweddol ddifyr ar ambell ddywediad eithaf llym o'i eiddo, megis hwnnw, na roesai efe mo ddimai goch y delyn am ddyn na chadwasai mo'i ymrwymiad. Ond gwell ydoedd na'i air, canys fe gymerth drafferth i geisio adfer aml yfwr ar ol cwympo ohono eilwaith a thrachefn. Dywediad arall o'i eiddo ydoedd y llyncai'r bili dowcan y pysgodyn â'i ben ymlaen, ac felly y gwnae Belsebwb a'r yfwr. Ni fyddai Sion Robyn fyth heb wialen fedw ynghadw ganddo mewn lafant ar gyfer y diotwyr. Rhaid addef y gwnelai ormod ystŵr weithiau o beth bychan. Ar dro fe godai ddim llai na chorwynt plant Job, o ganol awyrgylch eithaf llonydd, er mwyn pigo pluen allan o asgell ceiliogwydd.

"Yn marchog ei eidea y gwelsid Sion Robyn hwyr a bore, a chanol nos, hefyd, mae'n ddiau gennyf, pe gallesid ond cael trem arno yn ei gorff serol yn marchog yr hen gaseg ddirwest heb ffrwyn yn ei phen. Nid anghyffelyb i'r hen Sion Gilpin, ond mewn un peth yn wahanol, sef nad aeth ymhellach na fwriadai, a pheth arall, dwfr oedd yn y llestri meini ac nid gwin. Ond fe garlamai cyn wyllted a Sion Gilpin ei hun, a'r llestri meini dwfr yn curo yn erbyn ystlysau'r hen gaseg ac yn ei dyrnodio'n greulon. Dacw fo yn mynd!—mi a'i gwelaf yn awr. Dyna wr y tyrpeg yn taflu'r gât yn llydan-agored rhag y gwaethaf! Dyna'r llestri meini dwfr yn gandryll fel y cwymp y marchogwr dan ei farch! Ond dyna ef ar gefn yr hen gaseg eto, a'i freichiau am ei gwddf, a'i het a'i wig ar yr awel! Fel yr ehêd ymaith oddiar ei lwybr yn wyllt geiliogod ac ieir a hwyaid! A dacw'r hogyn post ar ei ol a'r hanner dwsin boneddigion gwlad, gan floeddio a llemain, Daliwch y lleidr! Llawer sarhad erioed a gafodd Sion Robyn ar gefn ei gaseg ddirwest.

"Ac nid mor rhyfedd, yn wyneb ei ddull gerwin ef ei hun o drin pobl, ddarfod lledu ei groen yntau ar y pared aml waith. Ond er blingo Sion Robyn unwaith a thrachefn, fe dyfai ei groen arno o'r newydd wedi hynny; ac, yn ol llaw, fe heriai ei wrthwynebydd yn y croen newydd hwnnw. Canys rhyw