97 wedi ei rhwymo wrth gorn y lleuad [gwich enbyd]. Mi a'i clywais yn sôn unwaith iddo glywed llanc o forwr yn dywedyd am Indiaid yr Amerig, y gallent âg un ergyd gwn saethu cneuen allan o gêg y wiwer heb ei fynafyd ddim; a chwanegai mai dyna ei ddymuniad yntau, medru saethu'r pwyns wisci allan. safn yr yfwyr [gwich], a thorri'r gwydr yn deilchion, gan wasgar y pwyns hyd dân yr aelwyd [gwich eto], er na fynnai, fe ddywedai, fynafyd dim ar yr yfwr ei hun, namyn syfrdanu peth arno a pheri iddo feddwl am ei ddiwedd. Nid hawdd gan yr hen Ifan gredu y meddyliai'r yfwr, er bod yn yfwr cymedrol, ryw gymaint am ei ddiwedd. Nid oedd rhyw lawer o le i'n beio ni'r plant asprus, canys nid oeddym amgen yn nhymor y sylw yna, am ryw ymdoriad o chwerthin uwchben peth fel hyna chwaith. Mi a'i clywais yn dweyd unwaith, ac unwaith yn unig y clywais i'r sylw hwnnw ganddo, fod iot yr yfwr gwirod yn hwylio'n ysgafn ar wyneb llyfn cefnfor temtasiwn, gan adael llwybr goleu o'i hol fel atgof dedwyddwch; canys cyffelybiaeth arabedd, nid darfelydd, geid ganddo'r rhan fynychaf. Fe son- iai am yfwyr llithrig eu llwnc, ac am rai yn yfed nes codi'r crychni o'u crwyn, ac am yr yfwyr yn tybied bod synnwyr eu siad yn gryfach na'r cwrw llwyd, ac am rai a yfai farilaid pe caent hi wrth eu trwynau [gwich], ac am rai yn yfed cryn becaid a'i bicio fo'n ol [gwawch]. Fe awgrymir gan y gyng- hanedd yn rhai o'r ymadroddion yma ei fod wedi dod o hyd iddynt yng ngwaith rhyw hen brydydd neu'i gilydd. Digrif ei ddull ydoedd pan soniai am y meddwyn yn simsan ar ei draed, a methu ganddo gerdded hyd y mur, a'r hen gorff yn bwhwman. â'i lais a'i freichiau, a rhyw wich neu'i gilydd yn dianc ganddo, neu ynte wawch. Ar amryw droion y clywais ef yn adrodd rhyw hen rigwm a gyfeiriai at rai yn dewis cwrw yn lle llef- rith.' Ond yr oedd y gor-bwyslais ar y llefrith a'r mymryn gwich efo'i gilydd yn lladd yr effaith a fwriedid ganddo ef. Yr hen gono! chwedl pobl sir Fflint. Digrif y tro pan aralleiriai efe Hudibras, heb ei enwi,- ARWEINIOL. à gwialen fedw Yn mesur maint potiau cwrw. Sef a feddylid, debygir, bod chwerwder profiad y diotwr yn cyfateb i faint ei bot cwrw. Fe wyrdroai'r hen Ifan ambell beth ar dro yn enw dirwest, gan edrych ar hynny fel ysbeilio'r 73
Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/129
Gwedd