Fel y Don Quixote, fe ddarniai yntau'n gyrbybion ulw ddoliau'r sioi, gan adael y Brenin Marsilio wedi ei anafu'n resynus a'r Ymherawdwr Siarl Fawr â'i goron a'i ben wedi eu hollti drwyodd. Wedi'r cwbl, ni chyferfid mewn taith dair wythnos wr gonestach na thryloewach na thrylwyrach chwaith, yn ei ffordd ei hun, na'r hen Ifan. Wedi dadebru ohono yntau, fe ymegyr mewn dirnadaeth newydd am y byd. Ond megis yr adnabuom ni ef, rhyw gragen môr ddieithr ydoedd, a rhesi amryliw ar ei thraws, rhai lliwiau go dywyll, rhai go oleu, ond y cwbl yn loew odiaeth, a llun hynod, cywraint, anefelychadwy i'r gragen ei hun.
"Ond dyma fi eto yn methu gennyf ymadael â'r hen gono. A fu erioed o'r blaen, dywedwch, y fath droi ar chwyrligwgan ynglyn à dim o hanes yr Hen Gorff? Ar ol dechre atgofio Ifan Ifan mi gaf fod ei ddywediadau yn glynu ynof fel y cacimwci. A ddylwn i eu cyfleu i lawr yma ai ni ddylwn? Wele gais. Mae gennyf ryw gof amdano'n cyferbynu bwthyn y meddwyn a bwthyn y dirwestwr. Am ddodrefn tŷ'r meddwyn, fe ddywedai nad oedd yno gymaint ag un hen gelficyn, namyn cistiau sebon a'r cyffelyb; ond am dŷ'r dirwestwr, ymhlith eraill o'i ragoriaethau yr oedd hwnnw cyn syched a nyth cath. Drwg gennyf nad yw'r disgrifiad o'r dodrefn yn codi ar alwad yr hudlath ar hyn o dro. Son am y gath hefyd, dyma atgof am ddisgrifiad o yrfa meddwyn ieuanc yn gyrru fel cath i gythraul; ac eto am y tafarnwyr yn troi'r gath yn yr haul i'r yfwyr, sef yn eu twyllo'r naill ffordd a'r llall, yn ol yr ystyr a roddai efe i'r ymadrodd. Am ddylanwad y ddiod, fe ddywedai ei bod yn cythreuleiddio'r cythreuledigion, sef y sawl oedd felly eisoes wrth anian. Wrth son am wr a bastynnwyd yn ffair Bangor ag y bu cynghaws o'r herwydd, fe ddywedai nad oedd y pastynu a gafodd hwnnw ond' cacen Berffro [sef mawr amheuthun oedd honno] wrth ymyl y niwaid a gawsai ambell un ar spri weithiau [gwich ar ol cacen Berffro]. Fwy nag unwaith y clywais ef yn haeru fod llun Dewines Endor yn wyneb y 'cwrw llwyd.' Hynny o rinwedd oedd yn y ddiod, ebe fe, o ran maint cyfartal ydoedd a llygad y dryw [gwich]. Hoff ddywediad ganddo oedd, mai'r yfwyr cymedrol oedd y bol grawn a gyflenwai Lynclyn yr Affwys [gwich yn troi'n wawch ar ol hyna, gan deimlo ei fod yn o gryf]. Am gymedroldeb ynglyn â'r ddiod feddwol, fe ddywedai nad oedd i ddibynnu arno mwy na rhaff o eisin sil