Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/141

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

ARWEINIOL. Coledd maent hen wenwyn rhagfarn Er gwneud system wâg yn gadarn. Pe cawn fy ewyllys arnynt, Gyrrwn bob rhyw. Penderfynu 'rydwyf ddatgan Darddiad hon o ddyfais Satan-tra bwyf byw... 109 Y pen-campwr mewn dadleuaeth gyhoeddus o bawb a fu yn y ddinas oedd y Deon H. T. Edwards, a datgysylltiad yr eglwys a'r wladwriaeth oedd ei bwnc ef. E fu yma fel Deon yn ystod. yr wyth mlynedd olaf o'i oes, sef 1876-84. Efallai mai ei dro hynotaf oedd ei araeth deirawr yng Nghaernarvon, Rhagfyr 20, 1883. Y pryd hwnnw yr oedd y banllawr yn llawn offeiriaid o bell ac agos, yn disgwyl fel crëyrod gleision ar lan cors hyd nes aflonyddid yn awr ac eilwaith ar wyneb y dwfr, ac yna anferth fonllefain ac ysgrechian a chlatsian esgyll. Yr oedd y Deon ei hun fel Cawr Anobaith â'i gwlbren mawr cnyciog o ddraenen ddu, ac wedi i gynddaredd dadleuaeth ddeffro yn ei fynwes yn deg nid yn ymresymu yn gymaint ag yn ymremial ac yn ymarllwys, ac fel un yn olrhain hudlewyn yn nhywyllwch y gors, ac wedi ymgynddeiriogi gan yr hudoliaeth, pryd yr ym- rithiai ac yr ymrathiai melltith eu mamau ger gwydd ei syn- hwyrau, ac yntau'n curo'r cwlbren yn ddigofus yn erbyn y ddaear ac yn ei chwyrlio'n herfeiddiol o amgylch ei ben, a'r hudlewyn yn fflich fflach, a'r dwfr glas gerllaw yn boglynu, ac yn y lloergan lleuad y boglynau yn ymdorri yn arianlliw swyn- gyfaredd. I edrych yn ol, nid yw'r cwbl ond murmur bloesg a bala llyn syrthni cwsg. Fe gyhoeddwyd yr araeth ar ffurf llyfryn allan o'r Gwalia, a gwnel 48 tudalen wythplyg; a gallai cipdrem dylluan arni, er ceisio myned i mewn i'w hysbryd, egluro adweithiad y teimlad crefyddol a'r teimlad sectol ar ei gilydd, a dangos un o delerau y profiad o grefydd yn hanes lliaws o bobl, yn enwedig mewn cyfnod a aeth heibio. Fe ddywedir bod Cymdeithas Rhyddhad Crefydd yn ceisio ysgaru crefydd oddiwrth y llywodraeth pryd yr oedd gwladwriaeth Israel yn eu cyfanu, a bod yr egwyddor hon yn un newydd. Fe gyfunir dwy blaid gan y Gymdeithas. Piwritaniaid wedi oeri o ran eu crefydd a throi yn fossils ydyw'r naill blaid. Fe wnaeth y Piwritaniaid goreu wasanaeth i ryddid; am y rhelyw, penboethiaid culion oeddynt. Nodweddion iselaf y Piwritaniaid oedd eiddo'r fossils presennol, a gred mai