Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/152

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

120 METHODISTIAETH ARFON. yw'r pregethwr yn agor ei bwnc o'r tufewn fel John Hughes, ond ei ledu o'r tuallan, a'i agor i gyd yn y dull hwnnw ger gwydd y meddwl. Mae yntau, hefyd, yn chware yn foddhaus ar deimlad y dorf, nid mor ddwfn i lawr a Hugh Jones, ond yn fwy ar y wyneb. Mae'r hwyl ganddo yn fwy trystiog na neb o'r lleill, ond eto'n gywir. Fe gyrhaeddodd yntau'n deg i ben y golwg, ac arferai wneud hynny cyn amled a neb pregethwr. Clywch ef yn bloeddio ar yr uchelfan, gan chwyrlio ei gap oddeutu ei ben: "Ni thafiwn i mo'm cap i'r un Cymro-na Sais-na Scotyn-na Gwyddel, am bregethu'r Efengyl." Er fod llawer yn gwenu, nid oedd neb wedi ei darfu. Hwyl ydyw hyn! Mae diniweidrwydd bachgennaidd clws y pregethwr yn achub ei ben. Fel yr ydoedd efe yn myned o'r maes, dyna hen bererin ato, gan ei hysbysu iddo gael arwydd ar weddi y bore hwnnw gan ei Dad Nefol, na byddai efe ddim ymhell yn ystod. y gwasanaeth y diwrnod hwnnw. Ymhen ychydig ddyddiau ar ol y Sasiwn fe gafodd yr ysgrif- ennydd y fraint o fod yng nghwmni'r Dr. William Roberts uwchben pryd o fwyd yn nhŷ'r Parch. Thomas Hughes yng Nghaernarvon; a dyna'r pryd y clywodd efe am y digwyddiad olaf i gyd a nodwyd. Yr oedd yn amlwg wrth ddull y Dr. o adrodd hynny y rhoddai efe fawr bwys arno. Fe wnaeth rhywun yn y cwmni gyfeiriad at y pregethu neilltuol o dda a oedd yn y Sasiwn, a chymhwysodd y Dr. yr ymadrodd at "y pedair pregeth gyntaf," sef o'r rhai ar y maes ar y diwrnod. olaf, ag yr oedd ei bregeth ef ei hun yn olaf un ohonynt. A chwanegodd gyfeiriad at oedfa John Hughes fel un nodedig. Dyna'r cwbl a ddywedodd ar y pen yna. Yn y man, fe aeth i'sôn am dano'i hun yn cyfarch rhyw gyfarfod crefyddol a gyn- helid am ryw awr yn y prynhawn yn New York neu ynte yn Brooklyn gerllaw, pryd yr oedd ysbryd adfywiad yn yr awyr. Yn ol trefn y cyfarfod, yr oedd cloch y cadeirydd yn canu ym- hen tri munud er rhoi pen ar bob cyfarchiad, os na byddid wedi gorffen eisoes. Yr oedd y Dr. ei hun ar ganol dywedyd rhyw hanesyn bychan pan ganodd y gloch. Ar hynny apeliodd at y cadeirydd am ddau funud yn rhagor. Caniatau hynny. Fel y gorffennai y Dr. ei araeth ymhen y pum munud yr oedd y cyn- hulliad mawr mewn dagrau. Ar ddiwedd y cyfarfod dyna Henry Ward Beecher at y llefarwr, gan ofyn iddo a oedd efe