Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/153

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

ARWEINIOL. 121 yn berthynas i'w hen nain ef, sef Catherine Roberts sir Gaer- narvon? Brodor o sir Fon oedd y Dr. William Roberts. Chwanegai Beecher yr olrheiniai efe rai o deithi mwyaf pobl- ogaidd ei bregethu ei hun i'r hen nain honno. Yn y crybwyll- ion am achau Lyman Beecher yn ei gofiant gan ei blant, sef tad Henry Ward ydoedd ef, fe sonir am wraig y dywedir mai Roberts ydoedd ei henw, a oedd yn hen nain i Lyman Beecher, a dywedir mai Cymro o waed coch cyfa oedd ei thad hithau. Tebyg mai ei thad a ddaeth o sir Gaernarvon. Yr oedd William Roberts yn ymddangos yn rhoi cryn bwys ar y ffaith yma yng- lyn âg achau Henry Ward Beecher; ac amlwg ydoedd y col- eddai'r syniad y perthynai i'r Cymry ryw arbenigrwydd o ran dawn naturiol i bregethu'r Efengyl. Ac am Henry Ward Beecher, diau ei fod ef, o ran doniau naturiol ar bob math ar gyfer pregethu'r Efengyl, yn rhenc flaenaf pregethwyr ei oes, os nad ydoedd yn gwbl ar y blaen; a buasai rhai, fel Joseph Parker, yn rhoi'r flaenoriaeth iddo ar bawb ym mhob oes. Ond nid oedd y pregethau hynny, yn y Sasiwn, er eu ham- rywiaeth, mewn un modd yn cynnwys llinellau'r prydwedd i gyd. Nid yw'r genhedlaeth wedi llwyr ymadael a glywodd hyawdledd ysgubol, peroriaethol, ofnadwy mewn nerth, John Jones Talsarn yn ei fannau uchaf; ac a welodd ddreigiau yn gwibio yng nghaddug y gorwel yng ngweinidogaeth Morgan Hywel; a thywyniad cleddau'r Hollalluog, ar rai prydiau, yn dangos ser y nef a gorwelion daear ar un fflach ym mhregeth- au Thomas Charles Edwards; a'r fuchedd ddaearol yng ngwawl esmwyth y nefol yng ngweinidogaeth Lewis Edwards; a'r dyfnder na wyddid oddiwrtho o'r blaen yn agor ei safn oddi- tanodd yn rhai o bregethau Richard Owen. Ac mae'r pre- gethau hynny i gyd, i'r sawl a'u clywodd, cystal ag eraill, a chystal a phregethau mwy arferol y Suliau cyffredin, yn rhan o'r bywyd, wedi eu gweithio fwy neu lai i'r deall a'r gydwybod a'r dyhead a'r ymarferiad. Ond un o'r pethau mwyaf neilltuol a glybuwyd erioed yn y cylch hwn yn ddiau oedd Cyngor John Foulkes Jones yn y Tab- ernacl yn Sasiwn 1877 ar y geiriau, Credais, am hynny y llefer- ais. Yr oedd y capel yn orlawn, ac am yr hanner awr olaf, neu rywbeth yn tynnu at hynny, fe wrandawai'r gynulleidfa fawr ynghyd wedi ei lapio mewn distawrwydd llethol. Sef yr