Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/165

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

yma. Ni chafodd mo gefnogaeth y Dr. Lewis Edwards a'i fab y pryd hwnnw, megis yr edliw yntau i'w coffadwriaeth yn hyt- rach yn chwerw. Efe a fu am ystod ferr yn haf 1876 yn darllen Republic Plato dan addysg Lewis Edwards, ond nid oes ganddo air o werthfawrogiad ohono yn ei lyfr, er y byddai ei werth- fawrogiad ohono gynt yn un tra uchel, yn ol fel yr arferid adrodd ar y pryd.

Mae Syr Henry Jones yn canmol John Thomas, yr athro mewn Mesuroniaeth yn y Coleg Normalaidd, ac aelod yn eglwys Prince's Road. Dywedodd John Thomas wrtho y gwnae ysgolfeistr da ond iddo gyd-dynnu â'i bwyll.

E fu'r Dr. Herber Evans yn brifathro Coleg Bala-Bangor am ysbaid at ddiwedd oes. Fe'i hadnabuwyd drwy'r cyfle hwnnw yn llawnach yn y cylch yma, er fod ei nerth mwyaf dros- odd erbyn hynny, ac na chyfaddaswyd mono yntau gan natur na diwylliant i'r safle neilltuol honno, oddieithr er cyrraedd amcanion anuniongyrchol à grym iddynt ar y pryd. (Edrycher yr Arweiniol i Eglwysi Cylch Caernarvon). Darfu'r Prifathro Probert a'r Prifathro Rees wasanaethu, drwy gyfrwng eu llyfrau adnabyddus mewn esboniadaeth feiblaidd ar angen dar- llenwyr. Mae'r Athro Witton-Davies, yn rhinwedd dysg eang, wedi cyrraedd safle fel beirniad ysgrythyrol. Fe grynhodd yr Athro Fynes-Clinton ynghyd eiriadur ardderchog o'r geiriau Cymraeg a arferir yn y cylch hwn, ac yntau, debygid, yn estron o ran cenedl, a chyn dod yma, o ran iaith.

Mae'r Athro Syr John Morris-Jones wedi estyn dylanwad arbennig ar fyfyrwyr ac ar y wlad. E fu ei argraffiad o'r Bardd Cwsg yn foddion i eangu cylch darllenwyr prif glasur yr iaith. Fe enillodd safle eithriadol mewn gramadegiaeth a beirniadaeth, a safle mewn barddoniaeth. Fe ymroes âg ynni canmoladwy i buro'r orgraff, i ddyrchafu safon llenyddiaeth ac i loewi'r cyfieithiad o rannau o'r ysgrythur. Fe gymer ei le mewn olyn- iaeth arbennig ynghyda'r Dr. John Davies Mallwyd a Syr John Rhys ei hen athro. Mae ef yn ŵyr i'r John Morris a'r Emma Parry y sonir am danynt ynglyn â chychwyniad eglwys y Ceu- nant.

Fe gyfnerthir ymdrechion yr Athro J. Morris-Jones gan waith yr Athro Ifor Williams, a gellir disgwyl oddiwrtho ef ail gnwd neu drydydd, megis ar rai o goed ffrwythau'r flwyddyn 1921. Fel y gwyddis, mae ef yn bregethwr yn y Cyfundeb.