Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/166

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Yr ydys yn ddyledus i'r Athro J. E. Lloyd am ei hanes Cymru ac am ei lawlyfr ar sir Gaernarvon, er mai yn y Saes- neg y mae'r naill a'r llall. Mae ei Dri Llyfr Hanes yn cynnwys hanes cynnar Cymru ar gyfer ysgolion. Arwydd yn nef addysg oedd sefydlu llyfrgelloedd Cymraeg yng ngholegau'r brifysgol, ac mae penodiad y Parch. T. Shank- land fel llyfrgellydd ym Mangor wedi rhoi ei gyfle iddo yntau mewn beirniadaeth lenyddol Gymraeg. Yr oedd yr Athro W. Lewis Jones yn adnabyddus fel beirn- iad mewn llenyddiaeth Gymraeg ac fel detholydd yn ei Ganiadau Cymru. Fe gyfrannodd bethau o werth i'r Gwyddoniadur a'r Cymrodor a'r Cambrian History of Modern Literature. Mewn undeb à W. Cadwaladr Davies yr ydoedd yn un o ddau hanesydd Prifysgol Cymru. Mae rhai o'r cylchgronau Cym- raeg a Saesneg ynghyda chyhoeddiadau eraill yn ddyledus iddo am gyfraniadau achlysurol. Yr oedd yntau yn bregethwr yn y Cyfundeb, ac yn frawd i'r pregethwr galluog a fu farw yn ieu- anc, sef Thomas John Jones-Lewis, Llangefni, ac yn gâr agos i Thomas Lewis y blaenor ym Mangor. Mae'r Athro Hudson Williams hyd yn hyn wedi dewis yn hytrach rodio yn ddistaw ar lannau'r distaw fôr, er nad heb ei ddylanwad o fewn coleg y brifysgol cystal ag oddiallan. Mae ef yn fab i'r Robert Williams Siop y Maes y sonir amdano yn hanes eglwys Engedi. Yr Ysbryd Tragwyddol ei hun sydd yn seinio ac yn atseinio yn fwy neu lai eglur drwy bibellau amrywiol yn yr hanes hwn am Fethodistiaeth Arfon. Fe geir yma ryw gyfle i glust- ymwrando â'r lleisiau amrywsain yng nghôr yr eglwys ddaearol. Ni cheir ond rhyw grap ar hynny ychwaith: rhyw grap ar nodau cân a glywir yn sisial yma a glywir eto yn berffeithgwbl mewn gwlad tuhwnt i len cnawdoliaeth. Yn ysbryd y meddwl, ar gip weithiau, fe ddichon i atsain y gân lawn drywanu'r en- aid am funud-awr. Lle digwydd hynny fe erys yr hiraeth am yr anthem lawn. Mae gwersi'r amseroedd diweddar yma yn eglur ddangos inni mai dibynnu yr ydym yn llwyr ar ei gilydd. Nid yw neb gwlad na neb dyn yn sefyll arnynt eu hunain. Llwydd y naill yw llwydd y llall; aflwydd y naill yw aflwydd y llall. Ni chred-